Dwyn 200 o gerrig pafin o grochendy

Cerrig pafin Image copyright Arall
Image caption Trysorydd yr amgueddfa: 'Sdim byd i gymryd eu lle.'

Mae'r heddlu'n ymchwilio wedi i 200 o gerrig pafin gael eu dwyn o Amgueddfa Crochendy Nantgarw ger Pontypridd.

Roedd y lladrad ddydd Gwener neu Sadwrn.

Cafodd y cerrig gwerth £10,000 eu gosod yn y crochendy yn 1780.

Crochendy Nantgarw yw'r unig safle archeolegol sydd ar ôl yn y Deyrnas Unedig ar gyfer cynhyrchu porslen.

'Gofid mawr'

Dywedodd yr ymdiriedolwyr, sy'n dathlu 200 mlynedd ers agor y gwaith cynhyrchu porslen, fod y lladrad yn "ergyd fawr".

Yn ôl y trysorydd, Mike Morris: "Mae hyn yn ofid mawr i ni. Y cerrig yw'r rhai gwreiddiol. Sdim byd i gymryd eu lle.

"Rhwng 1813 a 1822 roedd cynnyrch Nantgarw ymhlith y gorau yn y byd.

Image copyright Arall
Image caption Mae'r amgueddfa ger Pontypridd

"Mae'r fandaliaeth hon yn ergyd fawr i'n gwaith, hynny yw creu canolfan ragoriaeth yn y de."