Tân mewn hen westy: dim anafiadau

Alexandra Hotel
Image caption Dechreuodd y tân yn yr Alexandra Hotel nos Sul

Mae gwesty yn Llandudno wedi cael ei wacáu ar ôl i dân gychwyn yn y to.

Cafodd y frigâd dân ei galw nos Sul am 20:11 i'r Alexandra hotel yng nghanol y dref.

Mae'r adeilad yn un rhestredig ac yn pum llawr.

Mi lwyddodd pawb i adael y gwesty yn saff a doedd dim anafiadau.

Fe ddaeth dynion tân o Fae Colwyn, Conwy, Llandudno, Llanfairfechan ac uned orchymyn o Rhyl.

Cafodd stryd Mostyn ei chau am gyfnod tra roedd y tân yn cael ei ddiffodd.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.