Laudrup i aros yn Abertawe

Michael Laudrup Image copyright Getty Images
Image caption Arwyddodd Michael Laudrup estyniad blwyddyn i'w gytundeb ym mis Mawrth fydd yn ei gadw ar y Liberty tan 2015

Mae Michael Laudrup wedi gwrthod cynigion gan glybiau eraill a bydd yn aros yn ffyddlon i Abertawe, medd ei asiant.

Cafodd enw rheolwr Yr Elyrch ei grybwyll fel olynydd posib i David Moyes yn Everton.

Ond dywedodd Bayram Tutumulu: "Mae Michael Laudrup yn hapus ar hyn o bryd yn Abertawe. Wrth gwrs mae Michael wedi cael cynigion.

"Gall timau eraill ddisgwyl am flwyddyn neu ddwy. Rydym yn gwybod y bydd Michael yn hyfforddi'r timau mawr, ond nid nawr yw'r adeg.

"Dyw Michael ddim yn meddwl am dimau eraill gan ei fod wedi addo i'r chwaraewyr a chefnogwyr ei fod am aros yn Abertawe."

Mae Laudrup ei hun wedi mynnu y bydd yn aros ar y Liberty wedi tymor cyntaf hynod lwyddiannus, ac fe arwyddodd estyniad blwyddyn i'r gytundeb ym mis Mawrth fydd yn ei gadw gyda'r clwb tan Fehefin 2015.

Ond fe wnaeth hynny yn dilyn trafodaeth gyda'r cadeirydd Huw Jenkins er mwyn sicrhau y bydd arian ar gael i brynu chwaraewyr newydd yn yr haf.

Honnodd Tutumulu hefyd bod chwaraewyr yn fodlon derbyn llai o gyflog gan glybiau eraill er mwyn cael cyfle i chwarae o dan Laudrup.

Un chwaraewr sydd wedi ei gysylltu gydag Abertawe yw Jose Canas, sydd â'i gytundeb gyda RealBetis yn Sbaen yn dod i ben yn yr haf.

Ychwanegodd Tutumulu: "Canas o Real Betis? Mae un tîm o'r Uwchgynghrair wedi cynnig dwywaith ei gyflog iddo.

"Ond dywedodd y bachgen 'Na, rwyf am fynd i Abertawe'."