Un Cymro yn nhîm y Barbariaid

  • 29 Mai 2013
Paul James
Y prop Paul James yw'r unig Gymro yn y tîm

Mae hyfforddwr tîm rygbi'r Barbariaid - y Cymro Dai Young - wedi enwi'r 15 fydd yn herio'r Llewod yn y gêm agoriadol yn nhaith 2013 ddydd Sadwrn.

Bydd y Llewod yn herio'r Barbariaid yn Hong Kong.

Dim ond un Cymro fydd yn y 15 i ddechrau'r gêm, ac mae dau arall ymhlith yr eilyddion.

Paul James, prop Caerfaddon, yw'r un sydd wedi ennill ei le yn y tîm, ac mae James Hook a Duncan Jones ar y fainc.

Un arall o'r eilyddion yw mewnwr Samoa Kahn Fotuali'i sydd ar fin gadael rhanbarth y Gweilch i ymuno â Northampton.

Hefyd yn y tîm mae tri o Seland Newydd, dau Eidalwr, dau Americanwr ynghyd â chwaraewyr o Ffrainc, Awstralia a De Affrica. Dyw tri o'r tîm ddim wedi ennill cap llawn, gan gynnwys dau o garfan Wasps lle mae Dai Young yn gyfarwyddwr rygbi.

TIM Y BARBARIAID v. Y LLEWOD; HONG KONG, DYDD SADWRN, MEHEFIN 1:

15. Jared Payne (Ulster)

14. Joe Rokocoko (Bayonne a Seland Newydd)

13. Elliot Daly (Wasps)

12. Casey Laulala (Munster a Seland Newydd)

11. Takudzua Ngwenya (Biarritz a'r Unol Daleithiau)

10. Nick Evans (Harlequins a Seland Newydd)

9. Dmitri Yachvili (Biarritz a Ffrainc)

1. Paul James (Caerfaddon a Chymru)

2. Schalk Brits (Saracens a De Affrica)

3. Martin Castrogiovanni (Caerlyr a'r Eidal)

4. Marco Wentzel (Wasps a De Affrica)

5. Dean Mumm (Caerwysg ac Awstralia)

6. Samu Manoa (Northampton a'r Unol Daleithiau)

7. Sam Jones (Wasps)

8. Sergio Parisse (Stade Francais a'r Eidal, capten)

Eilyddion :-

Duncan Jones (Gweilch a Chymru), Leonardo Ghiraldi (Treviso a'r Eidal), Jim Hamilton (Caerloyw a'r Alban), Imanol Harinordoquy (Biarritz a Ffrainc), Andrea Lo Cicero (Racing Metro a'r Eidal), Kahn Fotuali'i (Gweilch a Samoa), James Hook (Perpginan a Chymru), Mike Tindall (Caerloyw a Lloegr).