Cerddwr wedi ei anafu'n ddifrifol ar Garnedd y Ffiliast

Mae cerddwr wedi cael ei anafu'n ddifrifol ar ôl cwympo yn Eryri.

Disgynnodd o Garnedd y Ffiliast a chafodd ei gludo yn hofrennydd yr awyrlu i Ysbyty Gwynedd, Bangor.

Dywedodd cadeirydd Tîm Achub mynyddig Dyffryn Ogwen, Chris Lloyd: "Cafodd y tîm ei alw tua 3.30pm.

"Roedd y dyn mewn ardal sydd ddim yn boblogaidd gyda cherddwyr, uwchben Dyffryn Ogwen tuag at chwareli'r Penrhyn".