Damwain: Dyn 20 oed wedi marw

Mae Heddlu'r De yn apelio am wybodaeth ar ôl damwain angheuol yn ardal Cathays yng Nghaerdydd brynhawn Mercher.

Fe darodd beic pedair olwyn yn erbyn bolard toc ar ôl tri o'r gloch yn Ffordd Pen-y-Wain.

Fe gafodd dyn lleol, 20 oed, ei gludo i'r ysbyty ar ôl y digwyddiad ond bu farw o'i anafiadau.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 101.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.