Dim lle i Warburton gyda'r Llewod

  • 30 Mai 2013
Sam Warburton yn hyfforddi gyda'r Llewod yn Hong Kong
Roedd 'na amheuon am ffitrwydd Sam Warburton ar ôl iddo gael anaf i'w ben-glin yn ystod sesiwn hyfforddi yn Hong Kong

Does dim lle i gapten y Llewod Sam Warburton yng ngêm gyntaf o'u taith, a hynny yn erbyn y Barbariaid ddydd Sadwrn yn Hong Kong.

Mae'r blaenasgellwr yn dal i ddioddef gydag anaf i'w benglin.

Ond mae'r hyfforddwr Warren Gatland wedi enwi naw o Gymry ymhlith y tîm.

O ran yr olwyr bydd Alex Cuthbert, Jonathan Davies, Jamie Roberts a Mike Phillips yn dechrau, gyda Richard Hibbard, Adam Jones, Dan Lydiate, Justin Tipuric a Toby Faletau ymhlith y blaenwyr.

Yn ogystal, mae Alun Wyn Jones a George North ar y fainc, a'r Gwyddel Paul O'Connell yn gapten.

'Gofalus'

Dywedodd Gatland mai mater o fod yn ofalus oedd y penderfyniad i adael Warburton allan o'r tîm.

"Mae o (Warburton) wedi diodde' 'chydig gyda'i ben-glin ers rhyw 10 diwrnod rwan," meddai Gatland.

"Mae'r meddygon wedi rhoi pigiad iddo ac wedi'i gynghori i orffwys am rhyw bum niwrnod.

"Roedd o bron â marw eisiau chwarae, ond roeddan ni'n teimlo ei bod yn hi'n rhy gynnar yn y daith ac felly ddim yn werth y risg."

Ychwanegodd: "Rwy'n gyffrous iawn am y dewis cynta' yma yn y daith.

"Yn naturiol, ar y cyfan mae'n cynnwys y chwaraewyr hynny nad oedd yn chwarae yn rowndiau terfynol pencampwriaeth Aviva a'r Pro12, ac mae gennym lawer o chwaraewyr yn ennill eu cap cynta' i'r Llewod.

"Ar yr un pryd, mae gennym gnewyllyn o brofiad, gyda chwe cyn Lew yn rhannu 430 o gapiau rhyngddynt mewn 19 o gemau prawf.

"Mae 'na hefyd ambell gyfuniad ry'n ni'n gwybod sy'n gweithio, fel y pâr o ganolwyr o Gymru a'r rheng ôl.

"Mae rhai o'r chwaraewyr fu wrthi'r penwythnos diwetha' hefyd ymysg yr eilyddion, ac yn gyffredinol mae pawb yn barod amdani."

TIM Y LLEWOD v Y BARBARIAID; HONG KONG, DYDD SADWRN, MEHEFIN 1:

S Hogg (Yr Alban); A Cuthbert (Cymru), J Davies(Cymru), J Roberts(Cymru), S Maitland (Yr Alban); O Farrell (Lloegr), M Phillips (Cymru); M Vunipola (Lloegr), R Hibbard (Cymru), A Jones (Cymru), R Gray (Yr Alban), P O'Connell (Iwerddon, capt), D Lydiate (Cymru), J Tipuric (Cymru), T Faletau (Cymru).

Eilyddion: T Youngs (Lloegr), C Healy (Iwerddon), M Stevens (Lloegr), A W Jones (Cymru), J Heaslip (Iwerddon), C Murray (Iwerddon), J Sexton (Iwerddon), G North (Cymru).