Hughes yw rheolwr newydd Stoke City

Mark Hughes Image copyright Getty Images
Image caption Fe gollodd Mark Hughes ei swydd fel rheolwr QPR fis Tachwedd diwetha' wedi tymor siomedig

Mae'r Cymro Mark Hughes wedi ei benodi yn rheolwr Stoke City, chwe mis ar ôl colli ei swydd gyda QPR.

Mae'n olynu ei gyd-Gymro, Tony Pulis, a adawodd Stoke trwy gytundeb ar y cyd yr wythnos ddiwetha' ar ôl saith mlynedd wrth y llyw yn stadiwm Britannia.

Mae Hughes, 49, cyn reolwr Manchester City, wedi bod heb waith ers gadael QPR fis Tachwedd y llynedd.

Cafodd 11 mis anodd yn Loftus Road, gan ennill ond wyth o'u 34 gêm gyda'r clwb, gan arwain at benodi Harry Redknapp yn ei le.

Bydd Stoke yn cadarnhau penodiad Hughes mewn cynhadledd newyddion am 11:00am ddydd Iau, gyda'r disgwyl cyhoeddiad ei fod wedi arwyddo cytundeb tair blynedd.

Straeon perthnasol