'Anlwc rhyfeddol'

Capel y Tabernacl, Caerfyrddin
Image caption Mae colli cofnodion Capel y Tabernacl, Caerfyrddin yn "anlwc rhyfeddol," yn ôl y gweinidog, y Parchedig Peter Cutts

Cafodd casgliad o gofnodion capel hanesyddol y Tabernacl yng Nghaerfyrddin eu llosgi yn y tân yn y Llyfrgell Genedlaethol fis diwethaf.

Dywedodd y Parchedig Peter Cutts, gweinidog y Tabernacl, iddo dderbyn galwad ffôn gan swyddog yn y Llyfrgell yn ei hysbysu bod tri blwch o ddogfennau'r capel wedi eu dinistrio.

Does gan y Llyfrgell ddim sylw i'w wneud ar hyn o bryd, gan eu bod yn dal i gysylltu â mudiadau a/neu unigolion lle y mae deunydd wedi ei ddinistrio.

Cafodd Mr Cutts ar ddeall fod y papurau yn cael eu paratoi ar gyfer eu hanfon i wasanaeth archifau Sir Gaerfyrddin adeg y tân, ac yn ôl Peter Cutts, "mi fasen nhw wedi bod yn iawn tasen nhw wedi bod yn y lle arferol".

Image copyright Other
Image caption Y Tabernacl yn dathlu dwy ganrif ar y safle presennol yn nheras Waterloo gyda gorymdaith trwy ganol tref Caerfyrddin yn 2012

"Anlwc rhyfeddol"

Y llynedd, cyhoeddodd cyn-weinidog y capel, y Parchedig Desmond Davies, lyfr yn dwyn y teitl 'Pobl y Porth Tywyll' sy'n croniclo hanes y Tabernacl hyd at 1968.

Mae bodolaeth y llyfr hwnnw yn cynnig rhywfaint o gysur i'r awdur a Mr Cutts gan ei fod yn cofnodi nifer o hanesion y capel, hanesion a fyddai o bosib wedi cael eu colli fel arall yn y tân.

Wrth ddisgrifio'r golled fel "anlwc rhyfeddol", dywedodd Mr Cutts ei fod yn aros i glywed yn ôl gan y Llyfrgell beth yn union oedd natur y deunydd a losgwyd.

Mae disgwyl y bydd hynny'n digwydd wythnos nesaf.

Mae'r Dr Davies yn gofidio y gallai cofnodion y cyfnod diweddar fod wedi eu dinistrio, gan na wnaeth e ymdrin â nhw yn ystod ei waith ymchwil.

Colli hanes

Nid dyma'r tro cyntaf i'r Tabernacl golli peth o'i hanes mewn tân.

Dinistriwyd papurau Titus Lewis, fu'n weinidog ar y capel tan ei farwolaeth yn 1811, pan oedden nhw yng nghartref mab ei olynydd fel gweinidog.

Roedd Titus Lewis yn amlwg oherwydd ei amddiffyniad o Galfiniaeth ac roedd yn awdur toreithiog.

Mae hanes y Bedyddwyr yng Nghaerfyrddin yn mynd nôl i 1650 - pan sefydlwyd cangen o eglwys Ilston yng Ngŵyr yno.

Yn ôl y Parchedig Desmond Davies, roedd y Tabernacl yn un o brif achosion y Bedyddwyr ac fe wnaeth yr eglwys gyfraniad pwysig i ddatblygiad Ymneilltuaeth Gymreig.

Y llynedd, dathlodd y Tabernacl ddwy ganrif ar y safle presennol yn nheras Waterloo.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.