Ymgais i ladrata ym Mae Colwyn

Mae'r heddlu yn apelio am dystion yn dilyn ymgais i ddwyn o siop bapur newydd ym Mae Colwyn.

Roedd y dyn yn cario cyllell pan aeth i mewn i'r siop am 7:15am fore Iau ar stryd Abergele ond chafodd neb ei anafu.

Wnaeth o ddim llwyddo i ddwyn unrhyw beth o'r siop.

Mae'n cael ei ddisgrifio fel dyn gwyn, tua 6 throedfedd o daldra, gyda chorff main.

Roedd yn gwisgo trowsus tracwisg du a chrys gyda chwfl yn gorchuddio ei wyneb.

Mae Heddlu'r Gogledd yn awyddus i glywed gan unrhyw un oedd yn yr ardal neu unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad.

Gall pobl ffonio 101, neu gysylltu â Thaclo'r Tacle ar 0800 555 111 gan roi'r rhif P083414.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.