Gêm Caerdydd a Bryste: Ymchwiliad yr heddlu

Logo Clwb Pêl-Droed Caerdydd Image copyright Getty Images
Image caption Lleiafrif o gefnogwyr Bryste achosodd y drafferth cyn ac ar ôl y gêm bêl-droed ym mis Chwefror

Mae Heddlu'r De yn apelio am wybodaeth wedi i drwbl ddechrau cyn ac ar ôl gem pêl-droed Caerdydd a Bryste ym mis Chwefror.

Ddydd Sadwrn Chwefror 16 achosodd rhai o gefnogwyr Bryste ddifrod troseddol ac roedd trais tu allan i Stadiwm Caerdydd ac ar Heol yr Eglwys Fair yng nghanol y brifddinas.

Wedyn arestiwyd 16 o ddynion rhwng 16 a 38 oed o ardal Farnborough a Bryste.

Cafwyd tri'n euog a'u gwahardd rhag mynd i gemau pêl droed.

Mae un dyn yn disgwyl cael gwybod ei ddedfryd, chwech wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth ac mi fydd chwech arall yn y llys yng Nghaerdydd y mis nesaf.

'Lleiafrif'

Dywedodd y Cwnstabl Christian Evans: "Doedd cefnogwyr Caerdydd ddim yn rhan o'r digwyddiad yma ac mi wnaeth y mwyafrif o gefnogwyr Bryste fihafio yn berffaith hefyd.

"Ond, yn anffodus, mi oedd lleiafrif eisiau achosi trwbl.

"Rydyn ni yn ymroddedig i sicrhau bod y gêm yn un sydd yn digwydd mewn awyrgylch saff lle mae pobl yn medru mynd yno gyda'u teuluoedd heb orfod ofni unrhyw drais.

"Os oes yna unrhyw un sydd yn adnabod y bobl yn y lluniau fe fydden i yn eu hannog nhw i'n ffonio ni."

Dim croeso

Dywedodd llefarydd ar ran tîm Bryste fod ganddyn nhw ystod eang o gefnogwyr sydd yn cynrychioli'r gymuned eang.

"Fydd unrhyw un sydd yn euog o droseddu ddim yn cael ei groesawu yng nghlwb pêl droed Bryste yn y dyfodol.

"Mi fyddwn ni yn cefnogi yn llwyr unrhyw waharddiadau oddi wrth y llysoedd."

Dylai unrhywun ag unrhyw wybodaeth ffonio'r Cwnstabl Christian Evans ar 07584 883154 neu Taclo'r Tacle ar 0800 555 111.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.