April Jones
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Chwilio am April: defnydd y we

31 Mai 2013 Diweddarwyd 10:22 BST

Ddydd Iau cafodd Mark Bridger ei garcharu am oes am lofruddio a herwgipio April Jones.

Fe gafodd y ferch ei chipio o stad Bryn y Gog ym Machynlleth ym mis Hydref y llynedd ac fe ddaeth nifer i wybod am y newyddion trwy wefannau cymdeithasol.

Defnyddiwyd y we hefyd yn ystod yr wythnosau wedyn i geisio helpu gyda'r ymdrech i ddod o hyd i'r ferch bump oed.

Dyma adroddiad Catrin Heledd ar y Post Cyntaf.