Y frech goch yn lledaenu yn arafach

Y frech goch
Image caption Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhybuddio rhieni bod hi'n bwysig i frechu eu plant

Mae'r frech goch yn lledaenu yn arafach yn ardal Abertawe erbyn hyn meddai Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Ond mae'r corff hefyd yn rhybuddio bod yna dal dim digon o bobl ifanc wedi eu brechu.

Chwe achos sydd wedi eu cofnodi o'r clefyd yn ystod y ddau ddiwrnod diwethaf sydd yn golygu bod yna 1,158 o achosion yn ardal Abertawe.

Mae bron i 2,500 dos o'r MMR wedi ei rhoi gan feddygon teulu ar draws Cymru yn ystod yr wythnos ddiwethaf.

Brechu

Er hynny mae Dr Marion Lyons o Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhybuddio rhieni i beidio meddwl bod y frech goch wedi diflannu: "Mae'r lledaeniad yma wedi dangos i ni pa mor gyflym mae'r frech goch yn medru cael ei drosglwyddo rhwng pobl sydd ddim wedi ei brechu a pha mor ddifrifol y gall y clefyd yma fod.

"Tra bod gyda ni ddegau o filoedd o bobl rhwng 10-18 sydd ddim wedi ei brechu sydd yn cymysgu gydag eraill yn yr ysgol neu mewn digwyddiadau cymdeithasol, allwn ni ddim dweud na all y clefyd ledaenu eto yn y misoedd neu flynyddoedd nesaf.

"Mae'r neges yn parhau bod y frech goch yn medru bod yn ddifrifol iawn ac mae unrhyw un sydd heb ei brechu mewn perygl. Os nad ydych chi wedi cael y brechiad dyma'r amser i gysylltu gyda'ch meddyg teulu."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.