Carcharu gyrrwr am 14 mis

Mae gyrrwr wedi ei garcharu am 14 mis wedi gwrthdrawiad â moped.

Dywedodd y barnwr yn Llys y Goron Caernarfon ei fod yn "drahaus".

Clywodd y llys fod y beiciwr 16 oed wedi cael anafiadau lluosog.

Plediodd Paul Trenfield, 42 oed o Abergele, yn euog i gyhuddiad o yrru'n beryglus ar yr A547 ym Medi.

Cafodd ei wahardd rhag gyrru am dair blynedd a bydd rhaid iddo gymryd prawf estynedig cyn cael trwydded.