Casglu barn yr ifanc am waith yr Urdd

Jacob, Iestyn ac Owain
Image caption Mae Jacob Ellis, Iestyn Hughes ac Owain Talfryn eisiau sicrhau bod llais yr ifanc yn cael ei glywed.

Mae rhai o aelodau ifanc yr Urdd wedi sefydlu fforwm er mwyn sicrhau bod ganddyn nhw lais ym mhenderfyniadau canolog y mudiad

Roedd Iestyn Hughes, Owain Talfryn a Jacob Ellis ar faes Eisteddfod yr Urdd yn sôn am Fwrdd Syr IfanC, teyrnged i sylfaenydd yr Urdd, Syr Ifan ab Owen Edwards.

Hybu

Roedden nhw hefyd yn cyflwyno eu syniadau am hybu'r iaith Gymraeg i'r Prif Weinidog, Carwyn Jones.

Cafodd y Fforwm Ieuenctid Genedlaethol ei sefydlu yn dilyn cais Iestyn Hughes, aelod 19 oed o'r Urdd o Ynys Môn.

Roedd y cyfarfod cyntaf yn Aberystwyth fis Mai.

Eu nod, meddai Iestyn, yw cael barn ac ymateb aelodau ifanc i waith yr Urdd a chynnig syniadau i gyngor a byrddau canolog y mudiad fel bod barn pobl ifanc yn cael ei chynnwys yn ei benderfyniadau.

Roedd aelodau Bwrdd Syr IfanC yn cael cyfle i gyflwyno eu syniadau i'r drafodaeth genedlaethol ar ddyfodol yr iaith roedd y Prif Weinidog yn ei chychwyn ar faes Eisteddfod yr Urdd ddydd Gwener.

Dywedodd yr aelodau ifanc eu bod wedi dweud wrth Carwyn Jones "pa mor bwysig yw hi i gael y genhedlaeth yma i drafod yr holl faterion sy'n ymwneud â'r iaith".

Pwysleisiodd Prif Weithredwr yr Urdd Efa Gruffydd Jones mai trwy fwrdd Syr IfanC y dylai'r Prif Weinidog dderbyn barn yr Urdd ar y Gymraeg yn y drafodaeth ar ddyfodol yr iaith roedd yn ei chychwyn ar faes yr ŵyl ddydd Gwener.

"Y bobl ifanc yma sy'n cynrychioli'r Urdd a'u barn nhw fydd yn bwysig wrth inni roi ein sylwadau ni. Mae'r cyfarfod yma yn gyfle gwych i'r Urdd, drwy ein haelodau ni i roi'r sylwadau yna i'r Prif Weinidog," meddai.

'Lle i wella'

Dywedodd y tri aelodd ar y maes ddydd Gwener eu bod fel grŵp yn teimlo nad oes digon o ddarpariaeth ar gyfer aelodau hŷn yr Urdd, nid yn unig yn Eisteddfod yr Urdd, ond yng ngweithgareddau'r mudiad drwy'r flwyddyn.

Image caption Aelodau ifanc yr Urdd yw'r rhai cyntaf i gael cyfle i gyfrannu at drafodaeth Llywodraeth Cymru ar ddyfodol yr iaith

"Unwaith rydych chi'n gadael yr ysgol 'dyw'r Urdd ddim y peth cynta chi'n meddwl amdano," meddai Owain Talfryn, 18 oed o Frynaman.

"Chi'n meddwl am yr Urdd pan rydych chi'n cystadlu gyda'r ysgol ond ar ôl mynd i brifysgol mae fel petai nad yw'r Urdd yn bodoli a dyna beth ry'n ni am ei newid - defnyddio'r Urdd drwy'r flwyddyn nid jyst yn ystod wythnos yr eisteddfod."

Dywedodd Iestyn Hughes fod y bwrdd wedi bod yn trafod datblygu gweithgareddau ar gyfer pobl ifanc 19 oed a hŷn.

"Mae'r Urdd yn targedu aelodau hyd at 30 mlwydd oed a be' rydyn ni'n deimlo ar hyn o bryd ydy fod ychydig o le i wella'r ddarpariaeth ar gyfer yr oedran 19 i fyny," meddai.

Maes B

Ymysg y gweithgareddau maen nhw eisiau eu gweld mae mwy o adloniant i bobl ifanc yn Eisteddfod yr Urdd a chreu pabell debyg i Maes B ar faes yr ŵyl - sef y maes ieuenctid yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Maen nhw hefyd yn awyddus i weld yr Urdd yn trefnu gigs ar gyfer pobl ifanc.

"Mae cymaint o bethau cyfrwg Saesneg allan yna mae ychydig yn anodd i ni fel pobl ifanc fynychu pethau cyfrwng Cymraeg oherwydd nad oes llawer yn cael ei ddarparu," meddai Iestyn Hughes.

Pwysleisodd Jacob Ellis, 20 oed o Fro Morgannwg, eu bod nhw yn glynu at egwyddorion sylfaenol mudiad yr Urdd.

"Rydyn ni'n cadw at egwyddorion yr Urdd, fel mae'r enw yn ei awgrymu drwy dalu teyrnged i Syr Ifan, sef mai'r iaith sy'n ganolbwynt iddi a bod llais i bobl ifanc ar sawl lefel pan mae'n dod i ddarpariaeth trwy gyfrwng y Gymraeg."

Maen nhw hefyd yn awyddus i ddatblygu mwy o weithgareddau yng ngwersylloedd y mudiad ac yn trafod cynnal diwrnod dyngarol hefyd meddai Jacob.

Cynrychiolaeth

Ers dechrau 2011, mae chwech fforwm rhanbarthol wedi eu sefydlu a'r gobaith erbyn diwedd 2013 yw y bydd gan bob un o ranbarthau'r Urdd fforwm, fydd wedyn yn cynnig un cynrychiolydd i'r Fforwm Genedlaethol.

Yng nghyfarfod cyntaf y fforwm, cynigodd yr aelodau bod cynrychiolaeth ganddyn nhw ar bob bwrdd sydd gan yr Urdd, gan gynnwys y bwrdd busnes, bwrdd y maes a'r bwrdd chwaraeon.

"Mae hynny yn dal i'w bendefynu gan y swyddogion uwch ond hyd yn hyn maen nhw'n ffafriol iawn," meddai Iestyn. "Gobeithio y byddan nhw'n cymeradwyo'r syniad."

Gobaith Jacob yw y bydd y byrddau eraill yn gwrando ar awgrymiadau ganddyn nhw.

"Un o elfennau eraill y bwrdd fydd ein bod ni mewn sefyllfa i gynghori, i roi barn ar benderfyniadau byrddau eraill gan y bydd gan y bwrdd yma yr un statws â'r byrddau eraill."

Ategodd Iestyn hynny: "Dwi'n credu ei bod yn hanfodol i fudiadau sy'n gwasanaethu pobl ifanc ymgynghori efo pobl ifanc. Dwi'n meddwl bod hynny yn rhywbeth hanfodol i'w gael o'r cychwyn cynta."