Gobaith o hyd i Donaldson a Davies

Jamie Donaldson Image copyright Getty Images
Image caption Mae Jamie Donaldson chwe ergyd y tu ôl i Matteo Manasero ar ddiwedd yr ail rownd

Mae dau Gymro yn dal i obeithio ennill Pencampwriaeth Golff Meistri Nordea yn Sweden dros y penwythnos.

Ar ddiwedd yr ail rownd, mae Jamie Donaldson saith ergyd yn well na'r safon ac yn gydradd wythfed.

Mae Rhys Davies ddwy ergyd y tu ôl i Donaldson - bum ergyd yn well na'r safon - ac yn gydradd 16eg.

Yr Eidalwr Matteo Manasero sydd ar y brig ar -13, gyda Mikko Ilonen o'r Ffindir a'r Albanwr Peter Whiteford yn ail a thrydydd wedi i'r ddau sgorio record am y cwrs o 63 yn eu hail rownd ddydd Gwener.

Methodd Cymro arall, Philip Price, â chyrraedd y drydedd rownd ddydd Sadwrn ar ôl gorffen ei ail rownd un ergyd yn well na'r safon.

Pencampwriaeth Meistri Nordea - Cwrs Bro Hof Slott, Sweden :

1. Matteo Manasero (Eidal) = -13 (66;65)

2. Mikko Ilonen (Ffindir) = -11 (70;63)

3. Peter Whiteford (Alban) = -10 (71;63)

Y Cymry :-

=8. Jamie Donaldson = -7 (67;70)

=16. Rhys Davies = -5 (69;70)

=75. Philip Price = -1 (71;72)

Straeon perthnasol