Golff: Gobeithion y Cymry yn pylu

Rhys Davies
Image caption Rhys Davies, sydd 9 ergyd yn well na'r safon ar ôl trydedd rownd Pencampwriaeth Golff Meistri Nordea yn Sweden.

Mae'r Cymro Rhys Davies naw ergyd y tu ol i'r ceffyl blaen ar ol trydedd rownd Pencampwriaeth Golff Meistri Nordea yn Sweden.

Roedd Davies yn gydradd unfed a'r ddeg nos Sadwrn ar ôl rownd o bedair ergyd yn well na'r safon. Mae hynny yn rhoi cyfanswm o 9 ergyd yn well na'r safon iddo. Ond mae Mikko Ilonen o'r Ffindir ar y blaen, 18 ergyd yn well na'r safon ar ôl ei drydedd rownd.

Jamie Donaldson oedd y Cymro gorau ar ôl y ddwy rownd agoriadol ond wnaeth o ddim gwella ar ei gyfanswm ddydd Sadwrn. Mae o yn aros ar 7 ergyd yn well na'r safon sydd yn golygu ei fod yn gydradd ddeunawfed.

Methodd Cymro arall, Philip Price, â chyrraedd y drydedd rownd ddydd Sadwrn ar ôl gorffen ei ail rownd un ergyd yn well na'r safon.

Pencampwriaeth Meistri Nordea - Cwrs Bro Hof Slott, Sweden :

1. Mikko Ilonen (Ffindir) = -18 (70;63;65)

2. Alexander Noren (Sweden) = -16 (67;69;64)

3. Jonas Blixt (Sweden) = -14 (70;66;66)

Y Cymry :-

=11. Rhys Davies = -5 (69;70;68)

=18. Jamie Donaldson = -7 (67;70;72)

=75. Philip Price = -1 (71;72)

Straeon perthnasol