Pwy fydd y Doctor newydd ?

Matt Smith
Image caption Bydd Matt Smith yn rhoi'r gorau i fod yn Doctor Who ddiwedd y flwyddyn

Mae'r BBC wedi cyhoeddi y bydd Matt Smith yn rhoi'r gorau i'w rôl fel Doctor Who ddiwedd y flwyddyn.

Fe yw'r unfed Doctor a'r ddeg ers i'r gyfres ddechrau bron i 50 mlynedd yn ôl.

Bydd ei olynydd yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf yn rhifyn arbennig y Nadolig 2013.

Dywedodd yr actor 30 oed bod gweithio ar y gyfres, sy'n cael ei chynhyrchu gan BBC Cymru, wedi bod yn "brofiad gwych".

Fe gafodd e'r rôl wedi i'r 10ed Doctor, David Tennant adael y gyfres bedair blynedd yn ôl

Dyw'r BBC ddim wedi datgelu sut y bydd Smith yn gadael y sgrîn. Bydd y gwaith o ddod o hyd i'w olynydd yn dechrau yn fuan.

Dywedodd Matt Smith:

"Mae Doctor Who wedi bod yn brofiad gwych i mi fel actor ac fel dyn, ac mae fy nyled i'n fawr i'r cast, criw a dilynwyr y gyfres."

"Rydwi'n hynod falch o beth rydym ni wedi ei gyflawni dros y pedair blynedd diwetha" meddai.