Cyrff: Galw am fwy o Gymraeg

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Adroddiad Steffan Powell

Mae galw ar gyrff llywodraethu chwaraeon yng Nghymru i gymryd yr iaith Gymraeg o ddifrif.

Mae ymchwil gan raglen y Post Cyntaf wedi darganfod bod 37 allan o 42 o gyrff llywodraethu chwaraeon yng Nghymru, sydd yn derbyn arian cyhoeddus, yn cynnal gwefannau uniaith Saesneg.

Fe ddaeth hi i'r amlwg hefyd mai dim ond 3 corff o'r 11 dderbyniodd dros £400,000 o bunnau eleni - dim ond tri sydd â pholisi iaith Gymraeg.

Mae'r ymchwil gan BBC Cymru yn dangos bod bron i 90% o'r cyrff sydd wedi derbyn arian cyhoeddus eleni yn cynnal gwefannau uniaith Saesneg. Yn ôl Emyr Young sydd wedi gwneud ymchwil yn y maes mae angen iddyn nhw wneud mwy:

"Mae yna wendid sylweddol a diffyg Cymraeg i'w weld ar wefannau sawl corff sydd yn ymwneud â chwaraeon ac maen nhw yn cael lot fawr o arian cyhoeddus."

Ychwanegodd Mr Young: "Ond mae angen iddyn nhw bwysleisio ar ddefnyddio mwy o'r Gymraeg yn ei gwefannau. Rwy' credu y byddai'n tynnu mwy o bobl i'w chwaraeon nhw .. Petaen nhw yn cychwyn fe fyddai fel caseg eira .. bydde pawb yn gwneud."

'Cyfleoedd nid gwefannau'

Dywedodd llefarydd ar ran mudiad Dyfodol i'r Iaith wrth y Post Cyntaf bod angen i'r llywodraeth sicrhau bod yr iaith yn cael ei defnyddio gan y cyrff chwaraeon.

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn dweud bod eu hymarferion yn groes i strategaeth iaith y llywodraeth.

Chwaraeon Cymru sy'n gyfrifol am ariannu'r cyrff yma. Ond mae'r corff yn dweud nad yw hi'n bosibl iddyn nhw sicrhau bod y cyrff y maen nhw'n eu hariannu yn trin y Gymraeg yn gyfartal a'r Saesneg. Eu Prif Weithredwr yw Dr Huw Jones:

"I mi dyw hyn ddim am bolisïau nac am y gwefannau. I mi beth sy'n bwysig ydi beth sy'n digwydd allan yn ein cymunedau ni."

Mynnodd Dr Jones bod angen rhoi'r flaenoriaeth i'r campau ei hunain:

"Ar y funud os ydi'r dewis i ddefnyddio'r arian i ddatblygu cyfleoedd trwy gyfrwng y Gymraeg ar y lefel lleol neu gynnwys gwefannau .. gwell gen i iddyn nhw ddewis y cyntaf, nid yr ail."

Yn ôl Cymdeithas Chwaraeon Cymru, y corff sy'n cynrychioli'r cyrff llywodraethu, mae nifer ohonyn nhw'n cyd-weithio â sefydliadau fel yr Urdd er mwyn gwella'r ddarpariaeth Gymraeg o fewn eu camp.

'Sarhaus'

Wrth ymchwilio i'r stori daeth llythyr i law'r Post Cyntaf sydd yn esbonio agwedd Cymdeithas Chwaraeon Cymru at y Gymraeg. Cafodd ei ysgrifennu'r llynedd fel rhan o ymgynghoriad Comisiynydd y Gymraeg i safonau ieithyddol.

Mae'r llythyr yn awgrymu nad ydi darparu gwasanaethau yn y Gymraeg yn "swnio'n rhesymol". Yn ôl yr awdur, dyw'r bobl sy'n galw am ragor o ddarpariaeth yn y Gymraeg "ddim yn cydnabod y canlyniadau ymarferol ac ariannol o wneud hynny".

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith mae'r llythyr yn sarhaus. Ond mewn ymateb i ymholiadau'r BBC, dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Chwaraeon Cymru bod y llythyr yn adlewyrchu pryderon nifer o'u haelodau sy'n dibynnu ar wirfoddolwyr.

Fe ddywedon nhw hefyd eu bod nhw'n edrych ymlaen at weithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg i ddatblygu safonau iaith newydd ar gyfer y dyfodol.

Wrth ymateb i'r pryderon yma dywedodd y Comisiynydd, Meri Huws, bod pwysigrwydd darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y byd chwaraeon wedi ei drafod yn ystod cyfarfod diweddar gyda Chwaraeon Cymru.

Yn ôl Llywodraeth Cymru dyw hi ddim yn ofynnol ar gyrff gwirfoddol i ddilyn Deddf Iaith 1993 ond maen nhw'n annog pob sefydliad i sicrhau bod darpariaeth iaith Gymraeg ar gael.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.