Pêl rwyd: Aur i ferched Cymru

Image copyright BBC Sport
Image caption Mae Merched Cymru yn dathlu ar ôl ennill Pencampwriaeth Agored Pêl Rwyd Ewrop

Mae merched Cymru wedi curo'r Alban o 56-43 i ennill Pencampwriaeth Agored Pêl Rwyd Ewrop yn Aberdeen.

Roedden nhw eisoes wedi curo Gogledd Iwerddon o 48-39 ddydd Sadwrn. Fe lwyddon nhw i guro Lloegr o 37-33 yn eu gêm agoriadol ddydd Gwener.

Fe wnaethon nhw yn sicr o'r fedal aur trwy fod ar y blaen yn erbyn yr Alban ymhob chwarter o'r gêm ddydd Sul (15-10, 28-20, 38-32 & 56-43).