Sawl newid i dîm y Llewod

  • 3 Mehefin 2013
Mike Phillips
Roedd y Cymry'n amlwg iawn ym muddugoliaeth y Llewod yn erbyn y Barbariaid ddydd Sadwrn

Yn ôl y disgwyl, mae llawer o newidiadau i dîm y Llewod fydd yn wynebu Western Force yn ail gêm y daith i Awstralia ddydd Mercher.

Fe fydd pump o chwaraewyr yn chwarae i'r Llewod am y tro cyntaf, gan gynnwys y Cymro Ian Evans.

Wedi i'r Cymry ddisgleirio yn y fuddugoliaeth yn erbyn y Barbariaid ddydd Sadwrn, mae pedwar yn y 15 fydd yn dechrau yn erbyn Western Force, gyda Leigh Halfpenny, George North ac Alun-Wyn Jones yn ymuno ag Evans yn y tîm fydd yn dechrau'r gêm.

Bydd Toby Faletau hefyd ar y fainc.

Wrth gyhoeddi'r tîm, dywedodd yr hyfforddwr Warren Gatland:

"Roedd llawer o bethau positif o'r gêm gyntaf yn Hong Kong. Roedd ein ffitrwydd ac ymroddiad yn wych.

"Wedi dweud hynny, dyna oedd ein gêm gyntaf ac mae lle i wella.

"Wrth gwrs mae hwn yn dîm newydd, a'r her yw sicrhau ein bod yn dewis chwaraewyr sy'n parhau gyda'r gwelliant rydym yn chwilio amdano ar y cae."

Y Gwyddel Brian O'Driscoll fydd yn arwain y tîm o wyth Gwyddel, pedwar Cymru a thri Sais wrth i'r Llewod geisio adeiladu ar eu buddugoliaeth o 59-8 yn erbyn y Barbariaid.

LLEWOD PRYDAIN AC IWERDDON v. WESTERN FORCE:

15. L.Halfpenny (Cymru)

14. T.Bowe (Iwerddon)

13. B. O'Driscoll (Iwerddon, capten)

12. M.Tuilagi (Lloegr)

11. G.North (Cymru)

10. J.Sexton (Iwerddon)

9. C.Murray (Iwerddon)

1. C.Healy (Iwerddon)

2. R.Best (Iwerddon)

3. D.Cole (Lloegr)

4. A-W.Jones (Cymru)

5. I.Evans (Cymru)

6. T.Croft (Lloegr)

7. S.O'Brien (Iwerddon)

8. J.Heaslip (Iwerddon)

Eilyddion: T.Youngs (Lloegr), M.Vunipola (Lloegr), M.Stevens (Lloegr), G.Parling (Lloegr), T.Faletau (Cymru), B.Youngs (Lloegr), O.Farrell (Lloegr), S.Maitland (Alban).