Dau yn yr ysbyty ar ôl damwain

Mae dau yn yr ysbyty ar ôl damwain ffordd brynhawn Llun.

Roedd gwrthdrawiad rhwng dau gar yn Heol y De, Sili ym Mro Morgannwg.

Cafodd diffoddwyr o Benarth a Threlái eu galw ychydig cyn 2.20pm a chafodd y ddau eu torri'n rhydd o'u cerbydau.