Hen olion ar safle ysgol

Golwg o'r awyr o'r safle Image copyright Gwasanaeth Cynllunio Archaeolegol Gwynedd
Image caption Golwg o'r awyr o batrwm beddau ar y safle

Mae rhai sy'n cloddio ar dir oedd wedi ei glustnodi ar gyfer ysgol newydd yng Ngwynedd wedi dod o hyd i safle adeiladu Rhufeinig.

Roedd y cloddio cyn i adeilad newydd Ysgol yr Hendre gael ei godi ond mae'r wybodaeth am y cloddio newydd gael ei chyhoeddi.

Roedd gan y Rhufeiniaid gaer o'r enw Segontium yng Nghaernarfon rhwng 77 OC a 393 OC.

Yn ôl Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd, mae'r darganfyddiadau newydd yn rhoi "dealltwriaeth well" o fywyd yn Oes y Rhufeiniaid yng Nghymru.

Image copyright Rhys Mwyn
Image caption Roedd dod o hyd i ffwrneisi yn syndod i'r archaeolegwyr

Mae'r fynwent yn perthyn i'r cyfnod ar ôl i'r Rhufeiniaid adael Segontium, ac mae cymhariaeth gyda safleoedd eraill tebyg yn awgrymu bod y fynwent wedi cael ei defnyddio rhwng 500 OC a 700 OC.

Cyn y darganfyddiad ychydig iawn o dystiolaeth oedd ar gael bod pobl wedi byw ar y safle wedi i'r Rhufeiniaid adael Segontium.

Ffwrneisi

Wrth i'r cloddio barhau fe ddaeth cyfres o byllau dwbl i'r amlwg ar ffurf ffigwr-8 ymysg y beddau.

Mae arbenigwyr yn credu mai ffwrneisi oedd y pyllau yma - un ochr ar gyfer coginio a'r llall ar gyfer cadw gweddillion y tanau.

Mae technegau dyddio radiocarbon yn awgrymu bod y ffwrneisi'n dyddio i'r cyfnod pan oedd Caer Segontium yn cael ei hadeiladu.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.