Heddlu'n apelio wedi ymosodiad

Heddlu
Image caption Mae'r heddlu yn gofyn i dystion gysylltu gyda nhw yn dilyn ymosodiad yng nghyffordd Llandudno

Mae Heddlu'r Gogledd wedi apelio am dystion i ymosodiad yng Nghyffordd Llandudno.

Dywed yr heddlu bod menyw leol yn ei 30au wedi cael ei hanafu yn y digwyddiad am tua 8:00pm nos Lun, Mehefin 3.

Cwnstabl Gary James yw'r plismon sy'n ymchwilio i'r digwyddiad, a dywedodd:

"Am tua 8:00 neithiwr bu anghydfod ar y pafin rhwng cylchfan Tesco a chylchfan y Weekly News yng Nghyffordd Llandudno. Cafodd menyw ei dyrnu droeon gan ddyn sy'n cael ei ddisgrifio fel dyn moel yn ei 40au.

"Digwyddodd yr ymosodiad yng ngolwg gyrwyr oedd yn pasio, ac fe fyddwn yn apelio ar unrhyw un oedd yn yr ardal ar y pryd ac a welodd y digwyddiad i gysylltu â'r heddlu cyn gynted â phosib.

"Yn ffodus ni chafodd y fenyw, sy'n byw yn lleol, anafiadau difrifol ond yn amlwg roedd hwn yn ddigwyddiad brawychus iawn ac yn un cwbl annerbyniol."

Dylai pobl all fod o gymorth i'r ymchwiliad ffonio Heddlu Gogledd Cymru ar 101, neu drwy ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111 gan nodi'r cyfeirnod RC13086773.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.