Llewod 2013: Warburton a Jenkins ar fin dychwelyd

  • 4 Mehefin 2013
Gethin Jenkins
Mae Gethin Jenkins eisoes wedi bod yn rhano sesiwn ymarfer lawn

Mae prop Cymru a'r Llewod Gethin Jenkins wedi cymryd rhan mewn sesiwn ymarfer lawn wrth wella o anaf i'w goes.

Doedd Jenkins ddim yn y garfan ar gyfer y fuddugoliaeth yn erbyn y Barbariaid ddydd Sadwrn, ac ni fydd yn y tîm i wynebu Western Force ddydd Mercher chwaith.

Yn y cyfamser mae hyfforddwr blaenwyr y Llewod Graham Rowntree wedi dweud bod disgwyl i Sam Warburton gymryd rhan mewn sesiwn arall ddydd Mercher wrth wella o anaf i'r ben-glin.

Mae disgwyl i'r ddau fod ar gael i gael eu dewis ar gyfer trydedd gêm y daith yn erbyn Queensland Reds ddydd Sadwrn.

Dywedodd Rowntree: "Fe wnaeth Gethin ymarfer yn dda ac fe fydd Sam yn ymarfer yn llawn yfory (Mercher) ar ôl gwneud sesiynau rhedeg ddydd Mawrth.

Mae Western Force wedi cyhoeddi'r tîm i wynebu'r Llewod ddydd Mercher, ac mae'n cynnwys cyn faswr y Gleision, Sam Norton-Knight.

Mae'r tîm yn cynnwys chwech o chwaraewyr sydd â phrofiad o gemau prawf, ac mae'r hyfforddwr Michael Foley wedi beio amserlen lawn am orfod gadael nifer o chwaraewyr arferol y tîm cyntaf allan o'r garfan.

Bydd y tîm yn wynebu'r New South Wales Waratahs mewn gêm allweddol yng nghynghrair y Super Rugby ar y penwythnos.