Mitchell allan o'r prawf cyntaf

Craig Mitchell Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Dyw Craig Mitchell ddim wedi ymarfer yn llawn ers cyrraedd Japan

Bydd prop Caerwysg a Chymru Craig Mitchell yn methu'r prawf cyntaf yn erbyn Japan yn Osaka ddydd Sadwrn.

Mae cyn chwaraewr y Gweilch wedi anafu ei ffêr.

Dywedodd hyfforddwr amddiffyn Cymru Shaun Edwards ei fod yn gobeithio y bydd Mitchell yn holliach ar gyfer yr ail brawf yn Tokyo ar Fehefin 15.

"Mae'n hen anaf sydd wedi codi'i ben eto. Gobeithio bydd e'n iawn ar gyfer yr ail brawf," meddai Edwards.

"Rwy'n credu fod e wedi cario'r anaf yma gydag e oherwydd dyw e ddim wedi ymarfer ers iddo fe gyrraedd."

Mae Cymru wedi teithio i Japan gyda charfan sydd heb bron 30 o chwaraewyr naill ai oherwydd anafiadau neu eu bod ar daith gyda'r Llewod yn Awstralia.

Clo y Gleision Bradley Davies fydd capten Cymru ddydd Sadwrn - y tro cyntaf iddo ymddangos i'r tîm cenedlaethol ers gêm brawf yr hydref yn erbyn Seland Newydd.

Yn y gêm honno fe gafodd ei ddyrnu gan Andrew Hore - gweithred arweiniodd at waharddiad o bum wythnos i fachwr y Crysau Duon, ac o orfododd Davies i fethu prawf olaf yr hydref yn erbyn Awstralia.

Yna cafodd Davies anaf i'w goes oedd yn golygu nad oedd ar gael ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2013.

'Yma i ennill'

Mae Edwards hefyd wedi dweud bod Cymru'n benderfynol o anrhydeddu eu statws fel pencampwyr y Chwe Gwlad yn ystod y daith.

Dan Biggar yw'r unig un o dîm Cymru a ddechreuodd yn erbyn Lloegr yn y bencampwriaeth sydd wedi teithio gyda Chymru i Japan.

Ond dywedodd Edwards: "Dyma'r garfan leiaf profiadol erioed i Gymru ac mae'n rhaid i ni fod yn realistig gyda'n disgwyliadau.

"Dyma'r tro cyntaf i'r bois yma chwarae gyda'i gilydd a fedrwn ni ddim disgwyl iddyn nhw chwarae yn yr un ffordd ag y gwnaethon ni yn erbyn Lloegr.

"Mae Japan wedi cael ychydig o gemau gyda'i gilydd hefyd sydd bob tro yn help.

"Ond rydym yma i ennill. Ni yw Pencampwyr Ewrop am y ddwy flynedd ddiwethaf ac mae gennym record ac enw da i'w warchod."

Bydd prif hyfforddwr Cymru ar y daith, Robin McBryde, yn enwi'r tîm fydd yn herio Japan ddydd Iau, ac fe allai tîm Cymru fod â chymaint â saith cap newydd.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.