Dim traeth i ganol tref Wrecsam

Wrecsam
Image caption Roedd y cynllun i godi traeth yng nghanol Wrecsam wedi profi'n bwnc llosg yn y dref

Fydd cynllun i adeiladu traeth yng nghanol tref Wrecsam ddim yn digwydd am nad oes gan y cyngor ddigon o arian i wario ar y project.

Roedd cyngor Wrecsam wedi gobeithio derbyn £6,000 o nawdd gan fusnesau lleol er mwyn talu am y traeth ar Sgwâr y Frenhines.

Y bwriad oedd y byddai'r traeth ar agor am bedwar diwrnod ym mis Awst ac yn ffordd i ddenu ymwelwyr i'r ddinas.

Ond cafodd fforwm y ddinas wybod mai dim ond pedwar o gwmnïau oedd wedi ymateb i'r alwad a'i bod mwy na £2,000 yn brin o'r targed.

Roedd yna sylw negyddol hefyd wedi bod yn y wasg, gyda phobl yn ysgrifennu llythyrau yn gwrthwynebu'r cynllun.

Dywedodd rheolwr hyrwyddo a marchnata'r cyngor, Amanda Davies, bod y prosiect wedi bod yn 'bwnc llosg'.

"Mae yna lot o waith wedi ei wneud ar y cynllun ac mae'r tîm sydd yn gweithio ar y syniad wedi ei siomi. Ond os nad oes gennym ni'r arian, allwn ni ddim parhau," meddai.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.