Y Llewod yn curo Western Force 69-17

  • 5 Mehefin 2013
Brian O'Driscoll
Fe sgoriodd y capten Brian O'Driscoll ddau gais i'r Llewod

Fe sgoriodd y Llewod naw cais yn eu hail fuddugoliaeth o'r bron ar eu taith i Awstralia.

Ond roedd 'na bryder ynglŷn ag anaf i bigwrn Cian Healy, a gafodd ei gludo oddi ar y cae yn ystod y gêm yn Perth ddydd Mercher.

Roedd y Cymro Leigh Halfpenny yn flaenllaw iawn yn y gêm, gan sgorio 24 o bwyntiau gyda'i droed mewn perfformiad arbennig.

Sgoriodd y capten Brian O'Driscoll ddau o'r naw cais i'r Llewod.

Ar ddiwedd yr hanner cynta' roedd yr ymwelwyr ar y blaen o 27-3, wedi ceisiau gan Jonathan Sexton, O'Driscoll a Tom Croft.

Croesodd Jamie Heaslip, Mako Vunipola, Tommy Bowe, O'Driscoll, Owen Farrell a Geoff Parling i gyd yn yr ail hanner.

Er iddynt roi tîm gwanach ar y cae, fe darodd Western Force yn ôl gyda cheisiau gan Richard Brown a Lachlan McCaffrey, a Brett Sheehan yn trosi ddwywaith.

Yn y cyfamser, mae gobaith y bydd Sam Warburton a Gethin Jenkins ar gael i'r Llewod ar gyfer trydedd gêm y daith yn erbyn Queensland Reds ddydd Sadwrn.

Roedd prop Cymru a'r Llewod, Jenkins, wedi cymryd rhan mewn sesiwn ymarfer lawn wrth wella o anaf i'w goes.

Ac roedd hyfforddwr blaenwyr y Llewod, Graham Rowntree, wedi dweud bod disgwyl i Warburton gymryd rhan mewn sesiwn arall ddydd Mercher wrth wella o anaf i'r ben-glin.

Fe fydd y tîm ar gyfer dydd Sadwrn yn cael ei gyhoeddi ddydd Iau.

LLEWOD PRYDAIN AC IWERDDON v. WESTERN FORCE:

Y Llewod:L.Halfpenny (Cymru); T.Bowe (Iwerddon); B. O'Driscoll (Iwerddon, capten); M.Tuilagi (Lloegr); G.North (Cymru) ;J.Sexton (Iwerddon); C.Murray (Iwerddon); C.Healy (Iwerddon); R.Best (Iwerddon); D.Cole (Lloegr); A-W.Jones (Cymru); I.Evans (Cymru); T.Croft (Lloegr); S.O'Brien (Iwerddon); J.Heaslip (Iwerddon)

Eilyddion: T.Youngs (Lloegr), M.Vunipola (Lloegr), M.Stevens (Lloegr), G.Parling (Lloegr), T.Faletau (Cymru), B.Youngs (Lloegr), O.Farrell (Lloegr), S.Maitland (Alban).

Western Force: Sam Christie, Dane Haylett-Petty, Ed Stubbs, Chris Tuatara-Morrison, Corey Brown; Sam Norton-Knight, Brett Sheehan; Salesi Manu, James Hilterbrand, Salesi Ma'afu, Toby Lynn, Phoenix Battye, Angus Cottrell, Matt Hodgson, Richard Brown.

Eilyddion: Hugh Roach, Sione Kolo, Tim Metcher, Ben Matwijow Lachlan McCaffrey, Alby Mathewson, Nick Haining, Junior Rasolea.