Cymru'n enwi pedwar cap newydd i herio Japan

Dafydd Howells Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Mae'r asgellwr Dafydd Howells yn un o bedwar fydd yn ennill eu cap cynta' ddydd Sadwrn

Mae Cymru wedi enwi pedwar chwaraewr sydd eto i ennill cap i wynebu Japan yn y Prawf cynta' yn Osaka ddydd Sadwrn.

Bydd yr asgellwr Dafydd Howells, y canolwr Owen Williams, y bachwr Emyr Phillips a'r blaenasgellwr James King yn ymuno â thîm sydd gan gyfanswm o 100 o gapiau rhyngddynt.

Y clo Bradley Davies, sydd wedi chwarae 38 o weithiau i Gymru, fydd yn arwain y tîm am y tro cynta'.

Dan Biggar yw'r unig faswr a wynebodd Lloegr i gipio Pencampwriaeth y Chwe Gwlad i gael ei gynnwys yn y tîm ddydd Sadwrn.

Davies, Biggar a'r mewnwr Lloyd Williams yw'r unig chwaraewyr i sydd wedi chwarae' o leia' 10 gwaith, sy'n golygu bod gan Gymru'r tîm mwya' amhrofiadol ers i'r gêm droi'n broffesiynol.

'Cyfle gwych'

"Mae'n gyfle gwych i'r capiau newydd ac maen nhw'n deall pwysigrwydd cynrychioli ein cenedl," meddai'r hyfforddwr dros dro Robin McBryde, sydd wrth y llyw yn absenoldeb Warren Gatland, sydd yn Awstralia gyda'r Llewod.

Mae'r Llewod hefyd wedi mynd â 15 o chwaraewyr amlyca' Cymru, tra bod Ryan Jones, James Hook a Paul Jones yn gorffwys wrth i Gymru chwilio am dalent newydd.

Yn y cyfamser, mae'r maswr Rhys Priestland, y bachwr Ken Owens, y blaenasgellwr Aaron Shingler, y prop Craig Mitchell a'r canolwyr Scott Williams ac Ashley Beck i gyd wedi'u hanafu.

Mae'r asgellwr Howells, 18, yn camu i'r llwyfan rhyngwladol ar ôl chwarae ond saith gêm ar y lefel uwch - pump gyda Chastell-nedd yn Uwchgynghrair Principality a dwy gyda'r Gweilch yng Nghwpan LV.

Bydd un arall sy'n cael ei gap cynta', Williams, 21, yn ffurfio partneriaeth yn y canol gyda Jonathan Spratt, 27, a enillodd ddau gap ar y daith i Ogledd America yn 2009.

Harry Robinson, sydd ag un cap, yw'r asgellwr arall, tra bod Liam Williams yn gefnwr.

Bydd cap arall newydd, Phillips, 26, yn ffurfio'r rheng flaen gyda Ryan Bevington a Scott Andrews.

Mae'r capten Davies yn ymuno â'i gyd-chwaraewr gyda'r Gleision Lou Reed yn yr ail reng, gydag Andrew Coombs yn flaenasgellwr ar yr ochr dywyll.

King yw'r blaenasgellwr ar yr ochr agored, tra bod Rob McCusker yn cwblhau'r rheng ôl, wrth iddo ddechrau fel rhif wyth am y tro cynta' i Gymru.

"Mae'r garfan wedi gweithio'n hynod o galed dros yr wythnosau diwetha' ac maen nhw'n barod i fynd allan yna a chwarae," meddai McBryde.

Mae Japan wedi dewis saith o enwau newydd a thri newid o ran safle ar ôl colli i Fiji yn eu gêm ddydd Sadwrn diwetha'.

Cymru:

Liam Williams (Scarlets); Harry Robinson (Gleision), Owen Williams (Gleision), Jonathan Spratt (Gweilch), Dafydd Howells (Gweilch); Dan Bigger (Gweilch), Lloyd Williams (Gleision); Ryan Bevington (Gweilch), Emyr Phillips (Scarlets), Scott Andrews (Gleision), Bradley Davies (capten, Gleision), Lou Reed (Gleision), Andrew Coombs (Dreigiau), James King (Gweilch), Rob McCusker (Scarlets).

Replacements: Scott Baldwin (Gweilch), Rhys Gill (Saracens), Rhodri Jones (Scarlets), Andries Pretorius (Gleision), Dan Baker (Gweilch), Tavis Knoyle (Scarlets), Rhys Patchell (Gleision), Tom Prydie (Dreigiau)

Japan:

Ayumu Goromaru, Yoshikazu Fujita, Male Sau, Craig Wing, Kenki Fukuoka, Harumichi Tatekawa, Fumiaki Tanaka; Masataka Mikami, Shota Horie, Hiroshi Yamashita, Hitoshi Ono, Shoji Ito, Hendrik Tui, Michael Broadhurst, Takashi Kikutani capten.

Replacements: Takeshi Itu, Yusuke Nagae, Kensuke Hatakeyama, TOshizumi Kitagawa, Ryuta Yasui,Atsushi Hiwasa, Yu Tamura, Hirotoki Onozawa.

Straeon perthnasol