Dyddiad ar gyfer achos canwr y Lostprophets

Ian Watkins Image copyright Wales News Service
Image caption Gwadodd 23 o gyhuddiadau o droseddau rhyw yn erbyn plant.

Bydd achos prif leisydd y Lostprophets, Ian Watkins, yn dechrau yng Nghaerdydd ddiwedd Tachwedd.

Mae'r canwr 35 oed yn wynebu 23 o gyhuddiadau rhyw yn ymwneud â phlant, gan gynnwys dau gyhuddiad o dreisio babi.

Mae dwy ddynes hefyd wedi'u cyhuddo o droseddau rhyw yn erbyn plant.

Fe ymddangosodd y diffynyddion yn y llys drwy gyswllt fideo i glywed y bydd eu hachos yn dechrau ar Dachwedd 25.

Mae disgwyl i'r achos bara mis.

Cafodd cais gan yr amddiffyniad i symud yr achos i lys y tu allan i Gymru ei wrthod.

Straeon perthnasol