Tripledi: Geni 90 milltir i ffwrdd

Ysbyty
Image caption Cafodd y fam ei symud o Ysbyty Brenhinol Morgannwg

Mae menyw 27 oed oedd yn disgwyl tripledi wedi cael ei chludo i ysbyty yn Lloegr 90 milltir i ffwrdd oherwydd prinder gwelyau.

Roedd Rachel Harris o'r Gelli yn Y Rhondda yn gobeithio y byddai'r babanod yn cael eu geni yng Nghymru.

Ond doedd dim digon o welyau i'r plant.

Cafodd ei symud o Ysbyty Brenhinol Morgannwg ger Llantrisant i Ysbyty Musgrove Park yn Taunton, Gwlad yr Haf.

Dywedodd ei gŵr Mark, peiriannydd yn y Mint Brenhinol,: "Roedd hyn yn hurt ac yn golygu llawer o bwysau.

"Yn ddelfrydol, fe ddylai Evan, Anwen ac Ioan fod wedi cael eu geni yng Nghymru.

"Maen nhw'n sôn am gau'r uned ond mae 'na broblemau ar hyn o bryd."

'Pum set'

Dywedodd Alison Williams, Prif Weithredwr Bwrdd iechyd Cwm Taf: "Ar y pryd cafodd pum set o efeilliaid eu geni yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ...

"Roedd penderfyniad i drosglwyddo'r teulu hwn i Taunton. Hon oedd yr uned agosa' lle oedd tri gwely ar gyfer y babanod."

Dywedodd nad oedd yn benderfyniad hawdd ond bod angen sicrhau bod y fam a'r babanod yn cael gofal addas.

Dywedodd y teulu eu bod yn derbyn mai hwn oedd y cam mwyaf diogel ond y dylid cadw gwasanaeth arbenigol ar gyfer babanod newydd-anedig yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.