Medal wedi 18 mlynedd yn yr Antarctig

Tudor Morgan Image copyright Tudor Morgan
Image caption Cafodd Tudor Morgan ei enwi ar restr anrhydeddau'r flwyddyn newydd ym mis Ionawr

Bydd Tudor Morgan o Frynbuga, Sir Fynwy, yn teithio i Balas Buckingham ddydd Gwener i dderbyn medal arbennig am ei waith ger Pegwn y De.

Cafodd Mr Morgan ei enwi ar restr anrhydeddau'r flwyddyn newydd ym mis Ionawr fel cydnabyddiaeth o 18 mlynedd o waith yn yr ardal. Ef yw enillydd y Fedal 'Polar'.

Mae Mr Morgan yn un o ddisgynyddion y teulu oedd yn rhedeg siop enwog David Morgan yng Nghaerdydd, ac fe dreuliodd rhan o'i amser ym Mhegwn y De yn rhedeg siop a swyddfa bost yn Port Lockroy.

Erbyn hyn mae dau arall o Gymru - Kathleen Leavy a'i thad Joe o Gastell-nedd - yn rhedeg y swyddfa bost sydd yr un mwyaf deheuol yn y byd.

Bellach mae Mr Morgan yn ymgynghorydd i Ymddiriedolaeth Dreftadaeth yr Antarctig, ac ers mis Ionawr bu'n gweithio ar ynys Detaille.

Mae'r fedal yn cael ei rhoi i berson sydd wedi gwneud cyfraniad amlwg i wella gwybodaeth am ardaloedd y ddau begwn.

Dechreuodd weithio yn yr Antarctig yn 1994, a dywedodd bod hynny'n gwireddu breuddwyd oedd ganddo ers yn blentyn.

"Mae'n anrhydedd fawr i mi gael y fedal," meddai, "ac yn eising ar y gacen."

Yn y seremoni ym Mhalas Buckingham ddydd Gwener bydd Cymro arall, Andrew Worthington o'r Wyddgrug, yn derbyn OBE am ei waith fel cadeirydd pwyllgor llywio'r gogledd-orllewin i'r Gemau Olympaidd a Pharalympaidd yn Llundain 2012.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.