Ar goll: Heddlu'n canfod corff

Graham Austin Image copyright North Wales Police
Image caption Diflannodd Graham Austin ar nos Sul, mehefin 2

Mae heddlu sydd wedi bod yn chwilio am ddyn aeth ar goll yng ngogledd Cymru dros y Sul wedi canfod corff.

Cafodd Graham Austin, 53 oed o Shifnal, Sir Amwythig, ei weld ddiwethaf am 4:30am ddydd Sul pan adawodd y garafan yr oedd yn aros ynddi ger Corwen, Sir Ddinbych.

Ddydd Iau daeth deifwyr yr heddlu o hyd i gorff yn Llyn Brenig ger Cerrigydrudion.

Nid yw'r corff wedi cael ei adnabod yn ffurfiol hyd yma. Mae teulu Mr Austin wedi cael gwybod am y datblygiad, ac mae'r crwner wedi ei hysbysu.

Cafwyd hyd i gar Mr Austin ger Llyn Brenig, sydd ar y ffin rhwng Conwy a Sir Ddinbych.

Straeon perthnasol