Buddsoddiad o £4.6m i warchod swyddi

Jammie Dodgers yn ffatri Burton's Image copyright Burton's Biscuits
Image caption Jammie Dodgers yw un o'r cynnyrch enwocaf ffatri Burton's yn Nhorfaen

Mae'r cwmni gwneud bisgedi, Burton's, wedi cyhoeddi buddsoddiad ychwanegol o £4.6 miliwn yn eu safle yn Nhorfaen.

Mae'r ffatri yn Llantarnam ger Cwmbrân yn un o dri safle cynhyrchu'r cwmni yn y DU, ac fe gafodd ei ddewis ar gyfer sustem bobi newydd y cwmni.

Daw'r arian ychwanegol â'r buddsoddiad yn y ffatri i bron £7 ers 2012.

Mae'r ffatri'n cyflogi 800 o bobl, ac mae bron dwy dunnell o Wagon Wheels yn cael eu gwneud bob awr.

Ymhlith cynnyrch arall y ffatri mae Cadbury's Fingers, Jammie Dodgers a Maryland Cookies.

'Cyflogwr hanfodol'

Dywedodd rheolwr cyffredinol y safle, Wayne Thompson: "Mae'n hanfodol ein bod yn monitro cynhyrchu yn ofalus iawn, ac mae'r dechnoleg newydd yn ein caniatau i wneud hynny ynghyd â darparu cyfle i wella sgiliau'r gweithwyr.

"Mae buddsoddiad parhaus yn ein safleoedd yn ganolog i allu Burton's i fedru dod â chynnyrch newydd i'r farchnad yn gynt nag unrhyw gwmni arall yn y farchnad bisgedi."

Bu'r ffatri yn Llantarnam yn gwneud bisgedi ers 1937, ac mae'n hanfodol fel cyflogwr yn yr ardal yn ôl Aelod Seneddol Llafur Torfaen, Paul Murphy.

"Mae buddsoddiad o'r maint yma yn tanlinellu ymrwymiad y cwmni i Lantarnam, ac i ddatblygu sgiliau newydd yn y gweithlu lleol," meddai Mr Murphy a fydd yn mynd ar daith o amgylch y ffatri ddydd Gwener.

Mae'r buddsoddiad diweddaraf yn rhan o wariant o £13.5 miliwn sydd wedi cael ei wario yn ystod 2013 yn safleoedd y cwmni yn Llantarnam, Caeredin, Blackpool a Moreton ar Lannau Mersi.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.