£12m yn diogelu 600 o swyddi

Dunbia
Image caption Bob blwyddyn mae 1.5m o ŵyn yn cael eu cyflenwi i farchnadoedd yn Ewrop.

Mae un o gyflogwyr mwya'r sector breifat yng nghefn gwlad wedi buddsoddi £12m mewn ffatri brosesu cig a diogelu 600 o swyddi.

Erbyn hyn, medd y rheolwyr, mae cyfleusterau ffatri Dunbia yn Llanybydder ar y ffin rhwng Ceredigion a Sir Gâr "ymhlith y rhai gorau yn y byd".

Bob blwyddyn mae 1.5m o ŵyn yn cael eu cyflenwi i farchnadoedd yn Ewrop.

Mae Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones wedi agor y ffatri ar ei newydd wedd.

'Yn gyffrous'

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Grŵp Dunbia Jim Dobson: "Rwy wrth fy modd gyda'r cyfleusterau newydd ac mae'r dyfodol yn gyffrous.

"Mae llawer o gwsmeriaid wedi bod yng Nghymru a chyda'r cyfleusterau newydd rwy'n sicr y bydd y busnes yn datblygu."

Dywedodd Prif Weithredwr Hybu Cig Cymru Gwyn Howells fod y buddsoddi'n "newyddion gwych".

"Mae'r buddsoddi'n dangos ffydd Dunbia yn ffermwyr Cymru ac ansawdd eu da byw.

"Gan fod safonau uchel yn y gadwyn gyflenwi mae ein cig yn cael ei gydnabod yn gynnyrch o safon drwy'r byd.

"Mae'r cwmni drwy gydweithio â ni wedi llwyddo i gael cytundebau mewn sawl gwlad, gan gynnwys Canada, Sbaen, Portiwgal a'r Eidal."

Cyfrannodd Llywodraeth Cymru grant o £2.71m.

Straeon perthnasol