Pont ynghau am 20 wythnos

Pont Llansanffraid-ym-Mechain
Bydd y gwaith ar bont Llansanffraid yn costio tua £500,000

Bydd pont sy'n strwythur cofrestredig Gradd II ynghau am 20 wythnos er mwyn gwneud gwaith cynnal a chadw arni a'i chryfhau.

Wrth i hyn ddigwydd, dywed Cyngor Powys y bydd llwybr diogel i gerddwyr ar draws y bont o'r 18fed ganrif yn Llansanffraid-ym-Mechain ger Y Trallwng.

Bydd y gwaith yn costio £500,000 ac fe ddywed yr awdurdod na chafodd y penderfyniad i gau'r bont ei wneud ar chwarae bach.

Bydd y gwaith yn dechrau ar Fehefin 24.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Thomas, sy'n gyfrifol am yr amgylchedd a rheoleiddio ar gabinet Cyngor Powys:

"Doedd e ddim yn benderfyniad hawdd i gau'r bont oherwydd yr effaith ar drigolion lleol a busnesau.

"Ond yn yr achos yma rydym yn gobeithio y bydd pobl yn gwerthfawrogi'r budd tymor hir a ddaw o adfer y bont brydferth a hanesyddol yma a diddymu'r cyfyngiad o 18 tunnell i gerbydau sy'n croesi.

"Rydym yn gobeithio cwblhau'r gwaith erbyn dechrau Tachwedd 2013, ond mae hyn yn dibynnu ar y tywydd yn ystod misoedd yr hydref a'r gaeaf."