Sioe yn annog pobl i fynd i'w pocedi

  • 8 Mehefin 2013
Vulcan Bomber XH558
Awyren Vulcan a fydd ymhlith yr atyniadau eleni yn Sioe Awyr Coffa Bob Jones yn y Trallwng

Mae pobl yn cael eu hannog i fynd i'w pocedi a thalu i weld sioe awyr yn hytrach na gwylio o'r bryniau gerllaw.

Bydd Sioe Awyr Coffa Bob Jones yn cael ei chynnal yn Y Trallwng ddydd Sul - sioe sy'n denu tua 5,000 o ymwelwyr bob blwyddyn.

Cafodd y sioe ei hail-enwi'r llynedd er cof am sefydlydd maes awyr Y Trallwng, Bob Jones, a fu farw mewn damwain awyren.

Mae'r trefnwyr yn dweud eu bod yn ystyried codi pris y tocynnau o £5 y flwyddyn nesaf gan fod rhai yn gwrthod talu pris mynediad.

Cafodd Mr Jones, ynghyd â Steven Carr o Sir Ddinbych, eu lladd pan syrthiodd eu hawyren i'r ddaear ger Y Trallwng yn Ionawr 2012.

Flynyddoedd cyn hynny fe drodd Mr Jones, oedd hefyd yn ffermwr, rhai o'i gaeau yn faes awyr llawn gyda llain lanio ac adeiladau.

'Lleiafrif'

Yn rhan o'r sioe eleni bydd awyren fomio Vulcan ac arddangosfa hedfan er cof am y 'Battle of Britain'.

Ond dywedodd un o'r trefnwyr Dr John Morgan bod y bobl sy'n gwrthod talu'r pris mynediad yn cael effaith ar lif arian y sioe.

"Lleiafrif sy'n gwylio o'r bryniau cyfagos heb dalu, ond mae hynny'n dechrau cael effaith ar y sioe.

"Rydym angen cymaint o arian ag y gallwn ni er mwyn ceisio adeiladu'r sioe.

"Fedrwn ni ddim rhwystro pobl rhag gwylio o'r bryniau, ond efallai y gallwn ni wneud iddyn nhw ddeall fod angen iddyn nhw dalu i weld y sioe."

Dywedodd Dr Morgan mai'r pris mynediad oedd £5 i oedolion, £3 i blant gyda thocyn teulu'n costio £15.

Y llynedd fe aeth staff y sioe i'r bryniau i ofyn am gyfraniad gan y rhai oedd yn gwylio oddi yno.

"Doedd pobl ddim yn rhoi llawer, ac roedd fwy o arian copr yn y bwcedi a bron dim arian papur," ychwanegodd Dr Morgan.

"Effaith hyn i gyd yw y bydd rhaid i ni ystyried codi'r prisiau'r flwyddyn nesaf efallai."