Amgueddfeydd ynghau oherwydd streic

Gyda'r cloc: Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd, Big Pit ym Mlaenafon, Amgueddfa Werin Sain Ffagan ac Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis Image copyright Others
Image caption Bydd saith safle Amgueddfa Cymru ar gau ddydd Sadwrn gan gynnwys Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd, Big Pit ym Mlaenafon, Amgueddfa Werin Sain Ffagan ac Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis

Roedd holl safleoedd Amgueddfa Genedlaethol Cymru ynghau ddydd Sadwrn oherwydd streic gan aelodau undeb y PCS dros gyflogau ac amodau gwaith.

Mae'r amgueddfeydd hefyd yng nghanol cyfnod ymgynghori o 90 diwrnod am gynlluniau ail-strwythuro i arbed £2.5 miliwn fydd yn golygu colli 23 o swyddi.

Dywedodd swyddogion yr amgueddfa eu bod yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra i ymwelwyr.

Yn ôl Darren Williams, o undeb y PCS yng Nghymru: "Mae hyn yn digwydd yng nghyd-destun cenedlaethol am doriadau i'r sector cyhoeddus.

"Ond yn benodol yn Amgueddfeydd Cenedlaethol Cymru maen nhw'n cynnal ymarfer ail-strwythuro fydd yn arwain at golli swyddi, newid amodau gwaith ac rydym hefyd yn bryderus y bydd newidiadau i lwfansau."

Ychwanegodd yr undeb y byddai llinellau piced ar safleoedd yr amgueddfa ar draws Cymru, gan gynnwys yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd a'r Amgueddfa Werin yn Sain Ffagan.

Mae'r amgueddfa yn cyflogi 650 o staff yn ei safleoedd ar draws Cymru. Y llynedd fe ddenodd yr amgueddfa dros 1.75 miliwn o ymwelwyr.

Wrth ymateb i'r gweithredu diwydiannol ddydd Sadwrn, dywedodd llefarydd ar ran yr amgueddfa: "Bydd saith safle Amgueddfa Cymru ar gau ddydd Sadwrn, Mehefin 8 oherwydd streic ar draws y DU gan undeb y gweithwyr cyhoeddus a masnachol, y PCS.

"Rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra y bydd hyn yn ei olygu ac yn edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr i bob un o'r amgueddfeydd pan fyddan nhw'n ailagor ddydd Sul, Mehefin 9."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.