Gwrthdrawiad: Oedi hir ar yr M4

Oedi'r M4 Image copyright Matthew Aplin
Image caption Mae oedi hir ar y draffordd

Mae oedi hir ar draffordd yr M4 oherwydd gwrthdrawiad rhwng nifer o gerbydau ar y ffordd tua'r gorllewin.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am tua 6:10pm ddydd Gwener i'r gwrthdrawiad rhwng cyffordd 36 (A4061/A4063 Pen-y-bont ar Ogwr/Gwasanaethau Sarn) a chyffordd 37 (A4229 Y Pîl).

Dywedodd yr heddlu bod car Volvo wedi bod mewn gwrthdrawiad gyda fan wen.

Dywedodd Heddlu De Cymru bod un person wedi cael anafiadau yn y digwyddiad, ac fe gafodd ei gludo i'r ysbyty mewn hofrennydd.

Meddai llefarydd ar ran yr heddlu: "Cafodd un dyn ei gludo i'r ysbyty ac yn wreiddiol roedden ni'n meddwl bod ei anafiadau yn peryglu ei fywyd.

"Ond yn dilyn archwiliad yn yr ysbyty dyw'r anafiadau i'w ben ddim yn rhai sy'n peryglu ei fywyd."

Bu oedi i gyfeiriad y dwyrain yn ogystal gan fod yr heddlu wedi stopio'r traffig dros dro er mwyn i ambiwlans awyr lanio ar y ffordd ddwyreiniol.

Bu'r ffordd ar gau yn llwyr am gyfnod, ond mae bellach wedi ailagor.