Sir Benfro: Menyw ifanc ar goll

Image caption Mae Heddlu Dyfed Powys yn chwilio am fenyw 20 oed sydd ar goll yn sir Benfro

Mae Heddlu Dyfed Powys yn gofyn am help y cyhoedd i ddod o hyd i fenyw ifanc 20 oed.

Dyw hi ddim wedi cael ei gweld ers tua 22:30pm nos Wener yn ardal Llwynhelyg yn Hwlffordd.

Mae'r heddlu yn dweud ei bod hi ychydig dros 5 troedfedd o daldra, yn denau gyda gwallt lliw ore. Roedd ei gwallt hyd ei hysgwydd ar un ochr ac wedi ei eillio yr ochr arall.

Roedd hi'n gwisgo legins du, siwmper liwgar a thop gwyrdd mewn steil filitaraidd. Roedd ganddi hi fag llaw hefyd.

Mae'r heddlu yn Hwlffordd yn gofyn i unrhywyn sydd wedi ei gweld i gysylltu gyda nhw ar 101.