Y Llewod yn rhy gryf i'r Queensland Reds

  • 8 Mehefin 2013
Ben Youngs
Ben Youngs yn sgorio unig gais y Llewod yn erbyn Queensland Reds

Llwyddodd Y Llewod i guro'r Queensland Reds o 22 pwynt i 12 yn nhrydedd gêm y daith i Awstralia.

Doedd yr ornest ddydd Sadwrn ddim mor hawdd i dîm Warren Gatland â'r ddwy gêm agoriadol gyda'r tîm cartref yn brwydro yn galed ymhob agwedd o'r chwarae.

Yr ymwelwyr sgoriodd gyntaf, gyda'r maswr Owen Farrell yn llwyddo gyda chic gosb.

Ond fe ymatebodd y Reds yn effeithiol ac fe gawson nhw eu gwobrwyo pan groesodd yr asgellwr Luke Morahan am gais cynta'r gêm. Fe redodd 70 metr cyn cicio'r bêl heibio i Stuart Hogg a chroesi'r llinell.

Cafodd y cais ei drosi gan y maswr Quade Cooper, un o chwaraewyr mwyaf dylanwadol yr ornest.

Fe ychwanegodd Farrell gic gosb arall i'r Llewod, cyn i'r mewnwr Ben Youngs sgorio unig gais yr ymwelwyr. Y Sais oedd y cyntaf i ymateb pan groesodd y bêl y llinell gais ar ôl iddi hi ddod yn rhydd o sgrym yn agos at y pyst.

Bu bron i'r Llewod ymestyn eu mantais ar ôl rhediad gwefreiddiol gan George North. Fe basiodd y bêl i'w gapten Sam Warburton ond fe gafodd y blaenasgellwr ei atal fodfeddi yn unig o'r llinell.

Sam Warburton
Sam Warburton yn agos at sgorio cais yn erbyn Queensland Reds

Roedd Farrell yn llwyddiannus gyda'r trosiad ac fe ychwanegodd driphwynt arall at y cyfanswm gyda chic gosb cyn yr egwyl.

Amddiffyn cadarn

Yn yr ail hanner roedd y frwydr yn agos, gydag amddiffyn y ddau dîm yn gorfod bod ar eu gorau.

Roedd yna dri phwynt arall i Farrell trwy giciau cosb, cyn i'r mewnwr Nick Frisby sgorio ail gais y tîm cartref.

Ond methodd Cooper gyda'r trosiad. Roedd hynny yn allweddol gyda'r Reds ar y pryd yn ymosod yn galed.

Er gwaethaf bygythiad cyson gan y gwŷr lleol, fe safodd amddiffyn y Llewod yn gadarn ac fe ychwanegodd Owen Farrell ei chweched cic lwyddiannus at y cyfanswm dri munud o'r diwedd.

TIMAU

Y Llewod: Stuart Hogg, Alex Cuthbert, Manu Tuilagi, Jonathan Davies, Tommy Bowe, Owen Farrell; Ben Youngs; Gethin Jenkins, Tom Youngs, Matt Stevens, Richie Gray, Geoff Parling, Dan Lydiate, Sam Warburton, Toby Faletau.

Eilyddion: Hibbard, Vunipola, A Jones, O'Connell, Tupiric, Murray, Sexton, North.

Queensland Reds: Lucas, Davies, Tapuai, A. Faingaa, Morahan, Cooper, Frisby, Daley, Hanson, Holmes, O'Donoghue, Wallace-Harrison, Quirk, Robinson, Schatz.

Eilyddion: Anae, Denny, Owen, Samo, Butler, Lance, Harris, Shipperley.Dyfarnwr: Jerome Garces (Ffrainc)