Anafiadau difrifol i ddringwr yn Eryri

Crib Goch and Crib y Ddysgl Image copyright Phil benbow
Image caption Roedd y grŵp wrthi'n ceisio dringo 15 copa' ucha' Cymru ac yn dod i lawr Crib y Ddysgl ar ôl treulio'r noson ar Yr Wyddfa

Mae dyn 42 oed wedi cael ei anafu'n ddifrifol ar ôl disgyn wrth ddringo yn Eryri.

Roedd yn rhan o grŵp oedd yn dod lawr Crib y Ddysgl pan ddisgynodd tua 60 troedfedd (18 metr) tua 5:40am ddydd Sadwrn.

Roedd y grŵp o bedwar o Surrey yn ceisio dringo'r 15 copa yng Nghymru sydd dros 3,000 o droedfeddi (915 metr).

Cafodd hofrennydd o Awyrlu'r Fali ei galw i gludo aelodau o Dîm Achub Mynydd Llanberis i'r safle wedi i'r grŵp alw am gymorth.

Cafodd y dyn driniaeth yn y fan a'r lle, cyn cael ei gludo yn yr hofrennydd i Ysbyty Gwynedd, Bangor.

Mae'n debyg ei fod wedi cael anafiadau i'w ben, ei frest, ei gefn a'i belfis.

Cafodd tri aelod arall y grŵp eu hebrwng oddi ar y mynydd gan Dîm Achub Mynydd Llanberis a'u cludo i ganolfan y tîm yn Nant Peris.

Dywedodd Phil Benbow, ysgrifennydd y Tîm Achub Mynydd:

"Fe dreuliodd y grŵp y noson ar Yr Wyddfa ac roeddan nhw'n dod lawr Crib y Ddysgl pan ddigwyddodd y ddamwain.

"Roedd yn ddigwyddiad anffodus - roedd ganddynt yr offer cywir, roedd y tywydd yn dda a doeddan nhw ddim yn gwneud unrhyw beth anghyffredin."

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.