Chwaer April yn awyr blymio i godi arian i dîm achub

  • 9 Mehefin 2013
Hazel Jones
Roedd Hazel Jones eisiau diolch i'r tîm am eu dewrder

Mae un o chwiorydd April Jones wedi awyr blymio 13,000 troedfedd (4,000 metr) i godi arian i ddiolch i'r tîm achub a fu'n chwilio am y ferch bump oed ym Machynlleth.

Pan ddiflannodd y ferch bump oed ym Machynlleth fis Hydref diwetha', fe arweiniodd at un o'r ymgyrchoedd chwilio mwya' yn hanes yr heddlu yn y DU.

Roedd ei hanner chwaer Hazel, 19, eisiau codi arian ar gyfer Tîm Achub Gorllewin y Bannau, gan eu bod nhw, fel y dywedodd hi, "wedi dangos dewrder aruthrol".

Dywedodd llefarydd fod y naid yn Abertawe wedi bod yn llwyddiant a bod Hazel "wedi mwynhau'n ofnadwy".

Wrth gyhoeddi ei chynlluniau ar wefan JustGiving, cyfeiriodd Hazel Jones at "ddewrder ac ymrwymiad anhygoel y tîm wrth iddynt chwilio am fy chwaer fach April Jones pan ddiflannodd hi".

"Roeddynt yn brwydro yn erbyn pob math o dirwedd a thywydd ofnadwy ac er na ddaethpwyd o hyd iddi wnaethon nhw, fel Paul, Coral [rhieni April] a llawer o bobl eraill ddim colli gobaith."

Mae Hazel Jones wedi codi bron i £4,000 ar gyfer y tîm achub mynydd.

Cafodd Mark Bridger, 47, o Geinws, ger Machynlleth, ei ddedfrydu i garchar am oes ym mis Mai ar ôl i lys ei gael yn euog o lofruddio a chipio April Jones.