£200,000 o elw i sioe

  • 10 Mehefin 2013
Y Sioe Frenhinol
Roedd mwy nag erioed o'r blaen o ymwelwyr yn y Sioe yn 2012

Mi wnaeth Sioe Frenhinol Cymru elw o dros £200,000 y llynedd, meddai'r trefnwyr.

Yn 2012 fe ddaeth mwy o ymwelwyr nag erioed o'r blaen i'r sioe bedwar diwrnod yn Llanelwedd, 241,099 o bobl.

Roedd yr elw ychydig yn uwch nac yn 2011 gyda'r cyfanswm yn 2012 yn £209,247.

Fe wnaeth y Sioe Aeaf a'r Sioe Wanwyn hefyd rywfaint o elw.