Pledio'n euog i lofruddio ei gariad

Mae dyn 28 oed wedi cyfaddef iddo lofruddio ei gariad Ddydd Nadolig.
Fe newidiodd David O'Sullivan o Gaerfyrddin ei ble ar ddechrau'r achos yn Llys y Goron Abertawe fore Llun.
Daethpwyd o hyd i gorff Charmaine MacMuiris, 37 oed, yng nghartref Mr O'Sullivan ar Ragfyr 25, 2012.
Bydd yn cael ei ddedfrydu'n hwyrach.
Dathlu
Roedd wedi gwadu'r cyhuddiad yn wreiddiol cyn cyfaddef llofruddio'r fam i dri o blant rhwng Rhagfyr 23 a 26.
Clywodd y llys ei bod hi wedi penderfynu mynd i'w gartre' i ddathlu'r Nadolig.
Dechreuodd ei theulu boeni oherwydd nid oedd yn bresennol ar gyfer pryd teuluol yn hwyrach Ddydd Nadolig.
Yn fuan wedi i'w chorff gael ei ddarganfod dywedodd ei rhieni, John a Christine,: "Rydyn ni'n torri'n calonnau fel teulu oherwydd colli'n merch bert.
"Fydd ein bywydau ni fyth yr un peth.
"Ni ddylai unrhyw deulu orfod wynebu'r fath drasiedi."