Cyfrifoldeb cynghorau yw safleoedd teithwyr

Chantelle Price
Image caption Dywedodd Chantelle Price y byddai'n ddigon bodlon symud pe bai ganddi rhywle arall i fynd

Gallai cynghorau ar draws Cymru gael eu herlyn o dan fesur tai newydd os na fyddan nhw'n codi cannoedd o safleoedd newydd ar gyfer Sipsiwn a theithwyr.

Bydd pleidlais ar y mesur arfaethedig yn yr hydref, ond er y byddai angen cannoedd o safleoedd newydd, mae gwrthwynebiad cryf i gynlluniau am safleoedd mewn ardaloedd fel Abertawe a Chasnewydd.

Mae cefnogwyr y mesur yn dweud y byddai deddf newydd yn gorfodi cynghorau i wneud mwy am fod gan deithwyr hawliau.

Bydd rhaglen Week In Week Out ar BBC Cymru nos Fawrth yn cwrdd â Sipsiwn a theithwyr sy'n byw ar safleoedd heb eu hawdurdodi, ynghyd â phrotestwyr sydd ddim am eu gweld yn byw yn eu cymunedau.

Mae cynghorau Abertawe a Chasnewydd wedi derbyn miloedd o wrthwynebiadau gan drigolion a busnesau sydd ddim yn gefnogol i ymdrechion i ddod o hyd i safleoedd newydd.

'Y gyfraith yn hurt'

Mae ffigyrau ddaeth i law'r rhaglen yn dangos y byddai angen oddeutu 400 o safleoedd newydd gyda lle i 1,200 o garafannau.

Mae pum ardal yn cael eu hystyried yn Abertawe gyda dau ohonynt yng Ngorseinon. Mae gwrthwynebiad yno gan fod un wedi ei glustnodi i fod yn fynwent a'r llall yn ardal werdd.

Mae Malcolm Curtice, o gyngor y dref, yn dweud bod pobl yr ardal am gadw caeau yno.

Dywedodd: "Os ydyn nhw am gael safle parhaol, dylen nhw gael tŷ parhaol.

"Fel mae sawl un wedi dweud o'r blaen, mae'r gyfraith yn hurt."

'Mwy o le'

Ond mae Jimmy Gilheaney - sy'n dad i wyth - yn byw gyda'i deulu estynedig ar safle swyddogol yn Abertawe, a dywedodd:

"Mae gennym bopeth sydd angen, ond byddai ychydig mwy o le yn help.

"Does gennym ddim bwriad i adael y safle - rydym yn hapus yma ond fe ddaw amser pan fydd y plant yn tyfu ac y bydd angen safle gwahanol arnyn nhw."

Dywedodd Mr Gilheaney ei fod yn flin iawn gyda lefel y protestio a'r gwrthwynebiad i safle newydd.

"Maen nhw allan yn protestio gyda phlacardiau. Beth fyddai'n cael ei ddweud pe bai hynny yn erbyn person du - ai'r ffaith mai Sipsiwn ydyn nhw sy'n gwneud y peth yn iawn?"

Un sy'n byw ar safle answyddogol yw Chantell Price. Does fawr ddim adnoddau (fel trydan ac ati) ar y safle y mae hi a'i phlant yn byw arno, ond mae'n dweud bod pobl leol wedi bod yn ymosodol.

"Maen nhw'n galw enwau arnom ac yn dweud wrth y 'sipsiwn drewllyd i ddychwelyd o'r lle y daethom'...pethau fel yna.

"Pe bai gennym rywle arall i fynd iddo, fyddwn ni ddim yma.

"Y cwbl ydym ni eisiau yw safle - rhywle i alw'r gartref - lle y gallwn aros drwy'r amser a bod yn ddiogel i'n plant."

'Hawliau dynol'

Dywed Aelod Cynulliad Gogledd Caerdydd Julie Morgan, sydd hefyd yn gadeirydd grŵp trawsbleidiol ar Sipsiwn a theithwyr, y byddai cyfraith newydd yn gorfodi cynghorau i wneud mwy na dim ond ceisio dod o hyd i safleoedd addas.

"Rhaid i ni geisio dod o hyd i leoedd i bobl i fyw - mae ganddyn nhw hawliau dynol.

"Mae'n rhaid bod gennym leoedd i'r bobl yma yng Nghymru fel bod ganddyn nhw rhywle i fyw a magu'u plant.

"Dyw hynny ddim yn ormod i ofyn. Ein gwaith ni yw creu cyfreithiau, ac rwy'n falch iawn ein bod yn creu'r cyfrifoldeb cyfreithiol yma."

Dywedodd cynghorau Abertawe a Chasnewydd eu bod ar hyn o bryd yn asesu'r holl wrthwynebiadau, ac y gallai fod yn fisoedd cyn y bydd unrhyw benderfyniadau terfynol yn cael eu gwneud.

Bydd Week In Week Out yn cael ei darlledu ar BBC One Wales ar nos Fawrth, Mehefin 11 am 10:35pm.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.