Cyhoeddi enw beiciwr fu farw

Mitchell Francis Image copyright other
Image caption Roedd Mitchell Francis yn feiciwr BMX brwd

Mae enw'r llanc a gafodd ei ladd wrth feicio yn Abertawe wedi cael ei gyhoeddi.

Roedd Mitchell Francis yn 17 oed.

Digwyddodd y ddamwain tua 1.30am ddydd Sul pan darodd beic Mr Francis yn erbyn car Ford Fiesta gwyn yn Nhregŵyr.

Roedd yn feiciwr BMX brwd ac yn astudio i gael cymhwyster adeiladwaith.

Dywedodd ei rieni, Sue a Mike Francis: "Rydyn ni wedi ein llethu a'n cysuro gan ymateb cymaint o bobl, nid yn unig o'n pentref ni ond yr ardal ehangach, ac mae hynny'n dangos faint o gariad oedd yna tuag at Mitch.

"Mi oedd e wrth ei fodd gyda'i BMX ac yn drasig mi orffennodd ei fywyd ar y BMX. Roedden ni mor falch o'r hyn yr oedd Mitch wedi cyflawni yn ystod ei fywyd byr.

"Mitch, chei di fyth dy anghofio ac mi fyddi di yn ein calonnau ni am byth.

"Mae'r drasiedi yma yn tanlinellu pwysigrwydd diogelwch ar y ffordd a bod angen i seiclwyr wastad wisgo helmed."

Mae swyddogion yr heddlu yn parhau i wneud ymchwiliadau ynglŷn â'r digwyddiad ac yn gofyn i unrhyw un welodd y ddamwain neu a stopiodd i gynnig help i gysylltu â nhw trwy ffonio 101 neu Taclo'r Tacle ar 0800 555 111.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.