Buddugoliaeth drawiadol i'r Llewod

George North
Fe sgoriodd yr asgellwr George North ddwywaith yn ystod y gem

Mae Y Llewod wedi cael eu buddugoliaeth fwyaf yn ystod eu taith yn Awstralia trwy faeddu tîm cyfun De Cymru Newydd Queensland o 64 pwynt i 0.

38 i 0 oedd y sgôr ar ddiwedd yr hanner cyntaf gyda dwy gais yn dod gan y Cymro George North.

Daeth pedwar cais arall yn yr ail hanner mewn gem agored.

Saith munud gymerodd hi i'r ymwelwyr i sgorio gyda chais yn dod yn y gornel gan Alex Cuthbert. Dyma drydydd cais y Cymro yn ystod y daith hon.

Roedd hi'n 19-0 ar ôl 13 munud i'r Llewod.

Yn yr ail hanner daeth mwy o geisiadau gan gynnwys un gan y cefnwr Leigh Halfpenny.

Fe gymerodd y cyfrifoldeb am gicio yn yr ail hanner oddi wrth Stuart Hogg gan gadw ei record 100% ers chwarae i'r Llewod yr haf yma.

Roedd y dorf yn credu bod y tîm cartref wedi sgorio ar un pwynt wrth i'r chwaraewyr ifanc Dale Ah Wang fynd dros y llinell a hynny gyda 13 munud nes y chwiban olaf.

Ond wedi i'r dyfarnwr edrych ar y sgrin deledu fe benderfynon nhw i atal y cais gan ddweud bod y bêl wedi ei bwrw ymlaen.

Fe wnaeth y Llewod sgorio mwy o bwyntiau yn erbyn Western Force pan wnaethant eu curo 69-17, ond hon yw'r gêm gyda'r gwahaniaeth pwyntiau gorau hyd yma ar eu taith.