Dros Gymru'n Gwlad

Mae'n hen bregeth o'r pwlpit hwn mai hanes rhaniadau mewnol y blaid Lafur yw hanes datganoli yng Nghymru. Rwy'n sicr eich bod yn hen gyfarwydd â'r ddamcaniaeth bod pob cam o'r setliad wedi dibynnu ar gyfaddawd rhwng esgyll "unoliaethol" a "chenedlaethol" y blaid Lafur.

I'r rheiny sy'n herio'r ddamcaniaeth - a phrin ydyn nhw y tu hwnt i'r rhengoedd Llafur - dyma i chi ddau ddyfyniad o ddadl Gymreig yn Nhŷ'r Cyffredin yn 1954.

"Wales is well provided with the basic necessities of life; she has a great deal of raw materials, power and food. I am absolutely confident that were Wales allowed to control and govern its own affairs, it could easily be made one of the richest countries in the world, and that within a generation."

"The needs of our old age pensioners are the same as those of the pensioners across the Border. They want more to eat, they want more security, and they want a guarantee that their roof will stay over their heads"

Eiddo S.O Davies Aelod Seneddol Merthyr yw'r dyfyniad cyntaf. Des i ar ei draw mewn taflen gan Robert Griffiths yn y gyfres "Our History". George Thomas, aelod Gorllewin Caerdydd wnaeth yngan yr ail ddyfyniad.

Mae anodd credu bod un blaid wedi llwyddo i gynnwys dau gymeriad a dau safbwynt mor wahanol i'w gilydd o fewn ei rhengoedd - ond mae Llafur wedi llwyddo i wneud hynny am ganrif a mwy.

Beth yw cyflwr y ddadl o fewn y blaid ar hyn o bryd, felly?

Diddorol yw darllen dogfen drafod a gyhoeddwyd gan Undeb Unsain heddiw. "Dyfodol i Gymru" yw teitl y ddogfen a theg yw dweud bod eu casgliadau yn agosach at safbwynt S.O na rhai George Thomas.

Gelwir am ystyried trosglwyddo pwerau trethi i'r Cynulliad yn ychwanegol at y rhai a argymhellwyd gan Gomisiwn Silk. Argymhellir sefydlu banc cenedlaethol trwy ddefnyddio cronfeydd pensiwn yr awdurdodau lleol fel sail ei gyfalaf a chynigir "cronfa buddsoddi i adeiladu" debyg iawn i'r un a addawyd gan Blaid Cymru yn etholiad 2011.

Gallwn restri awgrymiadau eraill ond yn y bôn mae'r undeb naill ai'n cytuno a neu'n dymuno mynd yn bellach na Llywodraeth Cymru wrth drosglwyddo pwerau i Gymru ym mhob un achos.

Nawr un undeb yw Unsain ac mae'r undebau ond yn un rhan o'r mudiad Lafur. Serch hynny mae'n debyg y bydd y ddogfen yn dod a gwen i wyneb Carwyn Jones. Arall fyddai ymateb Owen Smith.

Y cwestiwn nesaf yw pwy fydd â chlust Ed Miliband wrth i faniffesto 2015 gael ei baratoi?