Canser: 'Targed o 10 diwrnod'

Canser
Image caption Targed y llywodraeth yw bod 95% o bobl sydd ac achosion sydd angen triniaeth frys yn ei derbyn o fewn dau fis

Mae gweinidogion wedi dweud y dylai cleifion canser weld arbenigwr yn gynt ac y dylai byrddau iechyd sicrhau hynny.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn disgwyl bod claf yn gweld arbenigwr o fewn 10 diwrnod gwaith.

Felly bydd y driniaeth yn dechrau o fewn y cyfnod targed, 62 o ddiwrnodau.

95%

Ym mis Mai dywedodd BBC Cymru nad oedd targedau amseroedd aros cleifion canser brys yn cael eu cyrraedd.

Targed Llywodraeth Cymru yw bod 95% o gleifion yn gweld arbenigwr o fewn 62 o ddiwrnod.

Y ganran ddiweddara' yw 84%.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford fod y targed o 10 diwrnod yn "garreg filltir dros dro".

"Mae'r mwyafrif helaeth o gleifion yn gweld arbenigwr o fewn 62 o ddiwrnodau.

"Ond mae'r Gwasanaeth Iechyd wedi ei chael hi'n anodd gweld 95% ohonyn nhw o fewn y cyfnod targed.

"Os yw'r Gwasanaeth Iechyd yn canolbwyntio ar sicrhau bod cymaint o gleifion yn gweld arbenigwr o fewn 10 diwrnod, bydd cyrraedd y targed yn haws."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.